RHAN 3YMCHWILIADAU
Materion y caniateir ymchwilio iddynt
12Eithrio: materion nad ydynt yn ymwneud â Chymru
(1)
Ni chaniateir i’r Ombwdsmon ymchwilio i fater sy’n codi mewn cysylltiad ag awdurdod rhestredig sy’n cyflawni neu’n darparu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau neu wasanaethau’r awdurdod heblaw o ran Cymru.
(2)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys o ran Llywodraeth Cymru.
(3)
I’r graddau bod un o swyddogaethau awdurdod rhestredig yn cael ei chyflawni o ran y Gymraeg neu unrhyw agwedd arall ar ddiwylliant Cymru, mae i’w hystyried at ddibenion is-adran (1) yn swyddogaeth a gyflawnir o ran Cymru.