11Materion y caniateir ymchwilio iddyntLL+C
(1)Y materion y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt o dan y Rhan hon yw—
(a)camweinyddu honedig gan awdurdod rhestredig mewn cysylltiad â chamau gweithredu perthnasol;
(b)methiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarperir gan awdurdod rhestredig;
(c)methiant honedig gan awdurdod rhestredig i ddarparu gwasanaeth perthnasol.
(2)Caiff y materion ymwneud â chamau gweithredu a gymerwyd cyn i’r Ddeddf hon gael Cydsyniad Brenhinol neu wedi hynny.
(3)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adrannau 12 i 15.
(4)Camau gweithredu perthnasol yw—
(a)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru neu’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth perthnasol;
(b)yn achos awdurdod rhestredig sy’n landlord cymdeithasol yng Nghymru neu’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru heblaw Gweinidogion Cymru, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;
(c)yn achos awdurdod rhestredig sy’n berson â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny;
(d)yn achos awdurdod rhestredig sy’n awdurdod rhestredig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 31(2) sy’n ei ychwanegu at Atodlen 3, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau penodedig;
(e)mewn unrhyw achos arall, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gweinyddol.
(5)Gwasanaeth perthnasol yw—
(a)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau iechyd teulu y gwnaeth yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, ymrwymo i gontract i’w ddarparu, ymgymryd i’w ddarparu neu wneud trefniadau i’w ddarparu neu i’w darparu;
(b)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, unrhyw wasanaeth yr oedd yr awdurdod, bryd hynny, wedi gwneud trefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru i’w ddarparu;
(c)yn achos awdurdod rhestredig sy’n dod o fewn is-adran (4)(c), unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno;
(d)yn achos awdurdod rhestredig sy’n dod o fewn is-adran (4)(d), unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau penodedig;
(e)mewn unrhyw achos arall, unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu.
(6)At ddibenion is-adrannau (4)(d) a (5)(d), swyddogaethau penodedig awdurdod rhestredig yw’r swyddogaethau a bennir mewn perthynas â’r awdurdod mewn rheoliadau o dan adran 31(2) yn rhai sy’n dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon.
(7)Mae swyddogaeth weinyddol y caniateir i berson sy’n aelod o staff gweinyddol tribiwnlys perthnasol ei chyflawni i’w thrin yn swyddogaeth weinyddol awdurdod rhestredig at ddibenion is-adran (4)—
(a)os cafodd y person ei benodi gan yr awdurdod, neu
(b)os cafodd y person ei benodi gyda chydsyniad yr awdurdod (pa un ai o ran cydnabyddiaeth ariannol a thelerau ac amodau gwasanaeth eraill ai fel arall).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 11 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2