RHAN 1CYFLWYNIAD
1Trosolwg
(1)
Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn drosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.
(2)
Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer parhad rôl yr Ombwdsmon.
(3)
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth—
(a)
i’r Ombwdsmon ymchwilio i awdurdodau rhestredig;
(b)
o ran pwy sy’n cael gwneud cwynion i’r Ombwdsmon ac atgyfeirio cwynion ato;
(c)
o ran y materion y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt;
(d)
o ran y gweithdrefnau sy’n gymwys i ymchwiliadau’r Ombwdsmon;
(e)
o ran pwerau’r Ombwdsmon i ymdrin â rhwystr a dirmyg;
(f)
i’r Ombwdsmon baratoi adroddiadau ar ymchwiliadau;
(g)
i’r Ombwdsmon ddyroddi canllawiau i awdurdodau rhestredig ynghylch arferion gweinyddu da;
(h)
i awdurdodau rhestredig ddigolledu personau a dramgwyddwyd.
(4)
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth—
(a)
i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion ynghylch gweithdrefnau ymdrin â chwynion awdurdodau rhestredig, a’r weithdrefn Cynulliad sy’n gymwys i’r datganiad o egwyddorion;
(b)
i’r Ombwdsmon gyhoeddi gweithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion ar gyfer awdurdodau rhestredig;
(c)
i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod rhestredig gydymffurfio â gweithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion sy’n gymwys i’r awdurdod rhestredig;
(d)
i’r Ombwdsmon ddatgan nad yw gweithdrefn ymdrin â chwynion awdurdod rhestredig yn cydymffurfio â’r weithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion;
(e)
i’r Ombwdsmon hybu arferion gorau o ran y ffordd yr ymdrinnir â chwynion.
(5)
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—
(a)
i’r Ombwdsmon ymchwilio i ddarparwyr gofal cymdeithasol a darparwyr gofal lliniarol;
(b)
o ran pwy sy’n cael gwneud cwynion i’r Ombwdsmon a’u hatgyfeirio ato ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol;
(c)
o ran y materion gofal cymdeithasol a gofal lliniarol y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt;
(d)
o ran y gweithdrefnau sy’n gymwys i ymchwiliadau’r Ombwdsmon i ofal cymdeithasol a gofal lliniarol;
(e)
i’r Ombwdsmon baratoi adroddiadau ar ymchwiliadau i ofal cymdeithasol a gofal lliniarol.
(6)
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol—
(a)
i’r Ombwdsmon weithio gydag ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill etc. mewn perthynas ag ymchwiliadau;
(b)
o ran datgelu a diogelu gwybodaeth a chyhoeddiadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.
(7)
Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth amrywiol, gan gynnwys ychwanegu’r Ombwdsmon i Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 a’i gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad adolygu gweithrediad y Ddeddf hon.