xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CMATERION EITHRIEDIG: RHAN 3

1LL+CCamau gweithredu a gymerir gan Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru, neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru, neu gydag awdurdod Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru at y diben a ganlyn—

(a)ymchwilio i drosedd neu atal trosedd, neu

(b)gwarchod diogelwch y Wladwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2