ATODLEN 2MATERION EITHRIEDIG: RHAN 3

(a gyflwynir gan adran 14)

1

Camau gweithredu a gymerir gan Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru, neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru, neu gydag awdurdod Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru at y diben a ganlyn—

(a)

ymchwilio i drosedd neu atal trosedd, neu

(b)

gwarchod diogelwch y Wladwriaeth.

2

Cychwyn neu gynnal achosion gerbron llys ag awdurdodaeth gymwys.

3

Camau gweithredu a gymerir gan aelod o staff gweinyddol tribiwnlys perthnasol cyn belled ag a gwneir hynny ar gyfarwyddyd neu ar awdurdod (boed yn ddatganedig neu’n oblygedig), person sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r tribiwnlys.

4

Camau gweithredu a gymerir mewn perthynas â phenodiadau, diswyddiadau, tâl, disgyblaeth, blwydd-daliadau neu faterion personél eraill (heblaw gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a phenodi) mewn perthynas â’r canlynol—

(a)

gwasanaeth mewn swydd neu gyflogaeth o dan y Goron neu o dan awdurdod rhestredig;

(b)

gwasanaeth mewn swydd neu gyflogaeth, neu o dan gontract am wasanaethau, y mae’r pŵer i gymryd camau gweithredu yn ei gylch mewn materion personél, neu i benderfynu ar gamau gweithredu neu i gymeradwyo camau gweithredu i’w cymryd mewn materion personél, wedi’i freinio yn Ei Mawrhydi neu mewn awdurdod rhestredig.

5

Camau gweithredu sy’n ymwneud â phenderfynu ar swm rhent.

6

(1)

Camau gweithredu a gymerir gan awdurdod a bennir yn is-baragraff (2) ac sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)

rhoi cyfarwyddyd, neu

(b)

ymddygiad, cwricwlwm, trefniadaeth fewnol, rheoli neu ddisgyblu,

mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.

(2)

Yr awdurdodau yw—

(a)

awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)

panel apêl derbyn;

(c)

corff llywodraethu ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol;

(d)

panel apêl gwahardd.

7

Camau gweithredu a gymerir gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—

(b)

rheoliadau a wneir o dan adran 38, 39, 41 neu 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (ymchwiliadau i faterion sy’n ymwneud â gwasanaethau).