xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+COMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU: PENODI ETC

StatwsLL+C

2(1)Mae’r Ombwdsmon yn gorfforaeth undyn.

(2)Mae’r Ombwdsmon yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi ac yn cyflawni swyddogaethau ar ran y Goron.

(3)Mae’r Ombwdsmon yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).

(4)Ond nid yw gwasanaeth yn swydd Ombwdsmon yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2