ATODLEN 1OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU: PENODI ETC

Statws

2

(1)

Mae’r Ombwdsmon yn gorfforaeth undyn.

(2)

Mae’r Ombwdsmon yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi ac yn cyflawni swyddogaethau ar ran y Goron.

(3)

Mae’r Ombwdsmon yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).

(4)

Ond nid yw gwasanaeth yn swydd Ombwdsmon yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Goron.