RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Adolygiad o’r Ddeddf

73Adolygiad o’r Ddeddf

1

Rhaid i’r Cynulliad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ddiwedd y cyfnod 5 mlynedd, baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod 5 mlynedd.

2

Caiff y Cynulliad baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon ar unrhyw adeg.

3

Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i’r Cynulliad ymgynghori â’r cyfryw bersonau sydd, ym marn y Cynulliad, yn briodol.

4

Yn yr adran hon, ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.