RHAN 6YMCHWILIADAU: ATODOL
Ymgynghori a chydweithredu
65Ymgynghori a chydweithredu ag ombwdsmyn eraill
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, wrth wneud penderfyniad o dan adran 3(5), 4(3)(a), 43(8), 44(4)(a) neu wrth gynnal ymchwiliad o dan Ran 3 neu 5, yn dod i’r farn y gallai mater sy’n destun y gŵyn neu’r ymchwiliad fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon a grybwyllir yn is-adran (7).
2
Rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r ombwdsmon hwnnw am y mater.
3
Caiff yr Ombwdsmon gydweithredu â’r ombwdsmon hwnnw mewn perthynas â’r mater.
4
Caiff ymgynghoriad o dan is-adran (2), a chydweithrediad o dan is-adran (3), ymestyn i unrhyw beth sy’n ymwneud â mater sy’n destun y gŵyn neu’r ymchwiliad, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
a
cynnal ymchwiliad i’r gŵyn, a
b
ffurf, cynnwys a chyhoeddiad adroddiad yr ymchwiliad.
5
Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag ombwdsmon am fater o dan is-adran (2), caiff yr Ombwdsmon a’r ombwdsmon hwnnw—
a
cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater,
b
paratoi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad, ac
c
cyhoeddi’r adroddiad ar y cyd.
6
Nid yw is-adran (5) yn gymwys os mai’r ombwdsman yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (2) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.
7
Yr ombwdsmyn y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
a
y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth;
b
Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr;
c
Comisiynydd Lleol;
d
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban;
e
ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun a gymeradwywyd o dan adran 51 o Ddeddf Tai 1996 (p.52).
8
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (7) drwy—
a
ychwanegu person,
b
hepgor person, neu
c
newid y disgrifiad o berson.
9
Caiff rheoliadau o dan is-adran (8) ychwanegu person at is-adran (7) dim ond os oes gan y person, ym marn Gweinidogion Cymru, swyddogaethau sy’n ymwneud ag ymchwilio i gwynion.
10
Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (8) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
66Cydweithio â phersonau a bennir
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon—
a
bod mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo, a
b
bod y mater yn un a allai hefyd fod yn destun ymchwiliad gan berson a bennir yn is-adran (2) (“person a bennir”).
2
Mae’r canlynol yn bersonau a bennir—
a
Comisiynydd Plant Cymru;
b
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
c
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;
d
Comisiynydd y Gymraeg;
e
pan fo’r mater yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol, Gweinidogion Cymru.
3
Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—
a
rhoi gwybod i’r person a bennir perthnasol am y mater, a
b
ymgynghori â’r person a bennir mewn perthynas ag ef.
4
Pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i’r mater o dan adran 4 neu 44, rhaid i’r Ombwdsmon—
a
rhoi gwybod i’r person a bennir perthnasol am y mater, a
b
pan fo’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, ymgynghori â’r person a bennir mewn perthynas ag ef.
5
Pan fo’r Ombwdsmon yn ymgynghori â pherson a bennir o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon a’r person a bennir—
a
cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater,
b
cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac
c
paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.
6
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2) drwy—
a
ychwanegu person a bennir at y rhestr neu ei ddileu o’r rhestr, neu
b
amrywio cyfeiriad at fath neu ddisgrifiad o berson a bennir a gynhwysir am y tro yn yr is-adran honno.
7
Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
67Cydlafurio â Chomisiynwyr
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon bod—
a
cwyn, neu
b
mater y mae’r Ombwdsmon yn ystyried ymchwilio iddo o dan adran 4 neu 44, yn ymwneud â mater, neu’n codi mater, a allai fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Gomisiynydd y Gymraeg (y “mater cysylltiedig”).
2
Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am y mater cysylltiedig.
3
Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod y mater yn fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo (y “mater Ombwdsmon”), rhaid i’r Ombwdsmon hefyd, os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol—
a
rhoi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a
b
ymgynghori â’r Comisiynydd perthnasol am y cynigion hynny.
4
Os yw’r Ombwdsmon a’r Comisiynydd perthnasol o’r farn bod ganddynt hawl i ymchwilio, yn y drefn honno, y mater Ombwdsmon a’r mater cysylltiedig, caniateir iddynt—
a
cydweithredu â’i gilydd yn yr ymchwiliad ar wahân i bob un o’r materion hynny,
b
gweithredu gyda’i gilydd wrth ymchwilio i’r materion hynny, ac
c
paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd sy’n cynnwys eu casgliadau unigol o ran y materion y maent ill dau wedi ymchwilio iddynt.
5
Os yw’r Ombwdsmon o’r farn—
a
nad yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo, a
b
ei bod yn briodol gwneud hynny,
rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r person a gychwynnodd y gŵyn (os oes un) ynghylch sut i atgyfeirio’r mater cysylltiedig at y Comisiynydd perthnasol.
68Gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru
1
Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—
a
rhoi gwybod i Archwilydd Cyffredinol Cymru am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a
b
ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y dull mwyaf effeithiol o gynnal ymchwiliad.
2
Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—
a
cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef,
b
cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac
c
paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.