Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaethLL+C

52Gweithdrefn ymchwilioLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 43, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef i wneud sylwadau ar yr ymchwiliad, a

(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar yr honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 44, rhaid i’r Ombwdsmon⁠—

(a)paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio i’r—

(i)darparwr yr ymchwilir iddo, a

(ii)i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 43 neu 44 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 44 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn perthynas â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater ac nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad, wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf y cyfeirir atynt yn adran 45.

(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)Caiff yr Ombwdsmon, ymhlith pethau eraill—

(a)gwneud unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, a

(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu berson arall.

(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)symiau mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)lwfansau i ddigolledu’r person am ei amser.

(13)Caiff yr Ombwdsmon osod amodau ar y taliadau hynny.

(14)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 52 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

53Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion ymchwiliad o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.

(3)Mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—

(a)presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a

(b)dangos dogfennau.

(4)Caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (6), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.

(6)Nid oes gan y Goron hawl i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.

(7)Pan fo rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, wedi’i gosod gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol, nid yw’r rhwymedigaeth neu’r cyfyngiad yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I4A. 53 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

54Rhwystro a dirmyguLL+C

(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(4)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person hwnnw yn yr un ffordd ag y caiff drin person sydd wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I6A. 54 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2