xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CYMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL

Adroddiadau arbennigLL+C

59Amgylchiadau lle caiff adroddiadau arbennig eu paratoiLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad arbennig o dan adran 60 os yw achos 1, 2 neu 3 yn gymwys.

(2)Mae achos 1 yn gymwys—

(a)os yw’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(3)Yr amgylchiadau hynny yw—

(a)nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 57 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno;

(b)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—

(i)y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu

(ii)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny;

(c)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod y darparwr, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.

(4)Yn is-adran (3)(c) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 57(2)(b), neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

(5)Mae achos 2 yn gymwys—

(a)os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 58 yn rhinwedd is-⁠adran (2) o’r adran honno, a

(b)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(6)Yn is-adran (5)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 58(2)(b), neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

(7)Mae achos 3 yn gymwys—

(a)os yw’r mater (y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo) mewn perthynas â darparwr wedi cael ei ddatrys,

(b)os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,

(c)os yw’r darparwr wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a

(d)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(8)Yn is-adran (7)(d) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (7)(c), neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 59 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

60Adroddiadau arbennigLL+C

(1)Rhaid i adroddiad arbennig—

(a)nodi’r ffeithiau sy’n rhoi hawl i’r Ombwdsmon baratoi’r adroddiad arbennig (hynny yw, y ffeithiau sy’n gwneud achos 1, 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys), a

(b)gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—

(i)i unioni neu atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a

(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.

(2)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 1 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad adran 55 ato o dan adran 55(2)(b).

(3)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—

(a)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;

(b)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

(4)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig.

(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad arbennig a gyhoeddwyd, neu ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad arbennig, neu ran o adroddiad o’r fath, o dan is-adran (6).

(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan is-adran (2), (3) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—

(a)enw unrhyw berson heblaw’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad arbennig.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I4A. 60 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

61Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennigLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad arbennig gael ei gyhoeddi—

(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu

(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.

(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—

(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,

(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a

(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.

(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I6A. 61 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2