xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3YMCHWILIADAU

Pŵer i ymchwilio

3Pŵer i ymchwilio i gwynion

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn o dan y Rhan hon mewn perthynas â mater os yw’r gŵyn—

(a)wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu

(b)wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac

os yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16.

(2)Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 7 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon, a

(b)caiff gofynion adran 8(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(3)Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff ei chyfeirio at yr Ombwdsmon gan awdurdod rhestredig, a

(b)caiff gofynion adran 9(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(4)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn o dan y Rhan hon mewn perthynas â mater hyd yn oed os nad yw gofynion adran 8(1) neu (yn ôl y digwydd) adran 9(1)(b), (c) neu (d) wedi eu bodloni o ran y gŵyn—

(a)os yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, a

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(5)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 8(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

(6)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (5).

(7)Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl, neu hyd yn oed os yw’r atgyfeiriad sy’n ymwneud â’r gŵyn wedi’i dynnu’n ôl (ond gweler adran 8(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

4Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan y Rhan hon, y mae ganddo hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.

(2)Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,

(b)amau’n rhesymol—

(i)bod camweinyddu systemig, neu

(ii)mewn achos pan fo’r mater yn un y caniateir ymchwilio iddo yn rhinwedd adran 15(2), fod anghyfiawnder systemig wedi ei ddioddef o ganlyniad i arfer barn broffesiynol,

(c)ymgynghori â’r cyfryw bersonau y mae’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach o ran ymgynghori), a

(d)rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 5.

(3)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—

(a)mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad neu i roi’r gorau i ymchwiliad o dan yr adran hon;

(b)caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (3)(a).

5Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hun

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio i benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 4.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.

(3)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(4)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

(7)Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(8)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).

(9)Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(10)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.

(11)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(12)Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.

(14)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

(15)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr Ombwdsmon,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(16)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

6Dulliau amgen o ddatrys materion

(1)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.

(3)Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.

Cwynion

7Pwy sy’n cael cwyno

(1)Y personau sydd â hawl i gwyno i’r Ombwdsmon o dan y Rhan hon yw—

(a)aelod o’r cyhoedd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y person a dramgwyddwyd”) sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16;

(b)person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i weithredu ar ran y person hwnnw;

(c)os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson (er enghraifft, oherwydd bod y person a dramgwyddwyd wedi marw), person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.

(2)Ystyr “aelod o’r cyhoedd” yw unrhyw berson, heblaw awdurdod rhestredig sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw.

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a oes gan berson hawl i wneud cwyn i’r Ombwdsmon o dan yr adran hon.

8Gofynion: cwynion a wneir i’r Ombwdsmon

(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 3(2)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)bod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(b)cynnwys y cyfryw wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(c)cael ei gwneud i’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater a honnir yn y gŵyn.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

(4)Os caiff cwyn sy’n bodloni gofynion is-adran (1) ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)esbonio i’r person a wnaeth y gŵyn fod cwyn wedi’i gwneud yn briodol yn unol â’r Ddeddf hon, a goblygiadau gwneud cwyn o’r fath, a

(b)gofyn i’r person a yw’n awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol.

(5)Os nad yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol—

(a)ni chaiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 3(1)(a) i ddechrau ymchwiliad i’r mater a honnir yn y gŵyn;

(b)caiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 4 i ymchwilio i’r mater a honnir yn y gŵyn.

(6)Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol, rhaid i’r Ombwdsmon ofyn i’r person a yw am gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.

(7)Os yw’r person yn awyddus i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon wneud y cyfryw drefniadau angenrheidiol i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.

9Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr Ombwdsmon

(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 3(3)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)bod wedi cael ei gwneud i’r awdurdod rhestredig gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 7 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;

(b)bod wedi cael ei gwneud i’r awdurdod rhestredig cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y materion a honnir yn y gŵyn;

(c)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys yr wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(d)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r awdurdod rhestredig.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

10Cofnodion o gwynion

Rhaid i’r Ombwdsmon gadw cofrestr o bob cwyn a wnaed i’r Ombwdsmon neu a atgyfeiriwyd at yr Ombwdsmon mewn perthynas â mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

Materion y caniateir ymchwilio iddynt

11Materion y caniateir ymchwilio iddynt

(1)Y materion y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt o dan y Rhan hon yw—

(a)camweinyddu honedig gan awdurdod rhestredig mewn cysylltiad â chamau gweithredu perthnasol;

(b)methiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarperir gan awdurdod rhestredig;

(c)methiant honedig gan awdurdod rhestredig i ddarparu gwasanaeth perthnasol.

(2)Caiff y materion ymwneud â chamau gweithredu a gymerwyd cyn i’r Ddeddf hon gael Cydsyniad Brenhinol neu wedi hynny.

(3)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adrannau 12 i 15.

(4)Camau gweithredu perthnasol yw—

(a)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru neu’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth perthnasol;

(b)yn achos awdurdod rhestredig sy’n landlord cymdeithasol yng Nghymru neu’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru heblaw Gweinidogion Cymru, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;

(c)yn achos awdurdod rhestredig sy’n berson â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny;

(d)yn achos awdurdod rhestredig sy’n awdurdod rhestredig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 31(2) sy’n ei ychwanegu at Atodlen 3, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau penodedig;

(e)mewn unrhyw achos arall, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gweinyddol.

(5)Gwasanaeth perthnasol yw—

(a)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau iechyd teulu y gwnaeth yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, ymrwymo i gontract i’w ddarparu, ymgymryd i’w ddarparu neu wneud trefniadau i’w ddarparu neu i’w darparu;

(b)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, unrhyw wasanaeth yr oedd yr awdurdod, bryd hynny, wedi gwneud trefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru i’w ddarparu;

(c)yn achos awdurdod rhestredig sy’n dod o fewn is-adran (4)(c), unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno;

(d)yn achos awdurdod rhestredig sy’n dod o fewn is-adran (4)(d), unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau penodedig;

(e)mewn unrhyw achos arall, unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu.

(6)At ddibenion is-adrannau (4)(d) a (5)(d), swyddogaethau penodedig awdurdod rhestredig yw’r swyddogaethau a bennir mewn perthynas â’r awdurdod mewn rheoliadau o dan adran 31(2) yn rhai sy’n dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon.

(7)Mae swyddogaeth weinyddol y caniateir i berson sy’n aelod o staff gweinyddol tribiwnlys perthnasol ei chyflawni i’w thrin yn swyddogaeth weinyddol awdurdod rhestredig at ddibenion is-adran (4)—

(a)os cafodd y person ei benodi gan yr awdurdod, neu

(b)os cafodd y person ei benodi gyda chydsyniad yr awdurdod (pa un ai o ran cydnabyddiaeth ariannol a thelerau ac amodau gwasanaeth eraill ai fel arall).

12Eithrio: materion nad ydynt yn ymwneud â Chymru

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon ymchwilio i fater sy’n codi mewn cysylltiad ag awdurdod rhestredig sy’n cyflawni neu’n darparu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau neu wasanaethau’r awdurdod heblaw o ran Cymru.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys o ran Llywodraeth Cymru.

(3)I’r graddau bod un o swyddogaethau awdurdod rhestredig yn cael ei chyflawni o ran y Gymraeg neu unrhyw agwedd arall ar ddiwylliant Cymru, mae i’w hystyried at ddibenion is-adran (1) yn swyddogaeth a gyflawnir o ran Cymru.

13Eithrio: rhwymedïau eraill

(1)Ni chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan adran 3 os oes gan y person a dramgwyddwyd y canlynol neu os yw wedi cael y canlynol—

(a)hawl i apelio i dribiwnlys a gyfansoddwyd o dan ddeddfiad neu yn rhinwedd uchelfraint Ei Mawrhydi, neu i gael ei atgyfeirio at dribiwnlys o’r fath, neu i gael adolygiad gerbron tribiwnlys o’r fath,

(b)hawl i apelio i Weinidog y Goron, Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, neu

(c)rhwymedi drwy gyfrwng achos mewn llys barn.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon yn fodlon, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw’n rhesymol disgwyl i’r person arfer yr hawl neu’r rhwymedi, neu ddisgwyl iddo fod wedi arfer yr hawl neu’r rhwymedi.

(3)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan adran 3 dim ond os yw’r Ombwdsmon wedi ei fodloni—

(a)bod y mater wedi ei ddwyn i sylw’r awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef gan y person a dramgwyddwyd neu ar ei ran, a

(b)bod yr awdurdod wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn atal yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i fater os yw’r Ombwdsmon yn fodlon ei bod yn rhesymol yn yr amgylchiadau penodol i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r mater er gwaethaf y ffaith nad yw gofynion yr is-adran honno wedi’u bodloni.

14Materion eithriedig eraill

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon ymchwilio, o dan y Rhan hon, i fater a bennir yn Atodlen⁠ 2.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio Atodlen 2 drwy—

(a)ychwanegu cofnod;

(b)dileu cofnod;

(c)newid cofnod.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon.

(4)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Nid yw is-adran (1) yn atal yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i gamau gweithredu a gymerwyd gan awdurdod rhestredig wrth weithredu gweithdrefn a sefydlwyd i archwilio cwynion neu i adolygu penderfyniadau.

15Penderfyniadau a wnaed heb gamweinyddu

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon gwestiynu rhinweddau penderfyniad a wnaed heb gamweinyddu gan awdurdod rhestredig wrth arfer disgresiwn.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i rinweddau penderfyniad i’r graddau bod y penderfyniad wedi ei wneud o ganlyniad i arfer barn broffesiynol sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn arferadwy mewn cysylltiad â darparu gofal cymdeithasol neu iechyd.

Ymchwiliadau ategol

16Pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—

(a)pan fo gan yr Ombwdsmon bŵer o dan y Rhan hon i ymchwilio—

(i)i gamweinyddu honedig gan awdurdod rhestredig perthnasol mewn cysylltiad â chamau gweithredu perthnasol a gymerwyd gan yr awdurdod mewn perthynas â pherson,

(ii)i fethiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarperir i berson gan awdurdod rhestredig perthnasol, neu

(iii)i fethiant honedig gan awdurdod rhestredig perthnasol i ddarparu gwasanaeth perthnasol i berson, a

(b)pan fo gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd nad yw’n wasanaeth perthnasol hefyd wedi’i ddarparu i’r person.

(2)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir ymchwilio’n effeithiol nac yn gyflawn i’r camweinyddu honedig neu’r methiant honedig heb hefyd ymchwilio i’r gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd a grybwyllir yn is-adran (1)(b), caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i’r gwasanaeth hwnnw fel rhan o’r ymchwiliad mewn perthynas â’r awdurdod rhestredig perthnasol.

(3)Os gwnaiff yr Ombwdsmon hynny, mae unrhyw gyfeiriad at awdurdod rhestredig yn adran 17, 18, 23(2)(b) neu (7)(a), 27, 28(4)(b), (6)(c), (6)(d) neu (9)(b)(ii) neu 29(4)(a) yn cynnwys hefyd gyfeiriad at y person a ddarparodd y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(4)Yn yr adran hon—

(5)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar bŵer yr Ombwdsmon o dan adran 19.

Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio etc

17Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio neu i roi’r gorau i ymchwiliad

(1)Os yw’r Ombwdsmon—

(a)yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 3(5), neu

(b)pan fo’r Omdwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 4(2)(c), yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 4(3)(a),

rhaid i’r Ombwdsmon baratoi datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at—

(a)unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater, a

(b)yr awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef.

(3)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4), neu unrhyw ran o ddatganiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.

(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o ddatganiad, neu ran o ddatganiad, o dan is-adran (5).

(7)Os yw datganiad a baratowyd o dan is-adran (1)—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r datganiad a anfonir at berson o dan is-adran (2) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4), yn ddarostyngedig i is-adran (8).

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r datganiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r datganiad.

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

18Gweithdrefn ymchwilio

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 3, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wneud sylwadau ar unrhyw honiadau yn y gŵyn;

(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar unrhyw honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 4, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio—

(i)i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo, a

(ii)i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 3 neu 4 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 4 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn cysylltiad â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater a phan nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad cysylltiedig, i wneud sylwadau ynghylch yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 5.

(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)Yn benodol, caiff yr Ombwdsmon—

(a)gwneud y cyfryw ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol;

(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu fel arall.

(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)y cyfryw symiau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)y cyfryw lwfansau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt i ddigolledu’r person am ei amser,

yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt.

(13)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4.

(14)Nid yw cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig yn effeithio ar y canlynol—

(a)dilysrwydd unrhyw gamau gweithredu a gymerodd yr awdurdod rhestredig, neu

(b)unrhyw bŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod rhestredig i gymryd camau gweithredu pellach mewn perthynas ag unrhyw fater yr ymchwilir iddo.

19Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliadau a gynhelir o dan y Rhan hon.

(2)At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.

(3)At ddibenion ymchwiliad, mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—

(a)presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a

(b)dangos dogfennau.

(4)At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson at ddibenion ymchwiliad i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.

(6)Nid oes rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi,pa un a osodwyd y rhwymedigaeth honno gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, i fod yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ymchwiliad.

(7)Nid oes gan y Goron hawl, mewn perthynas ag ymchwiliad, i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.

20Rhwystro a dirmygu

(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Ond nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person dim ond am fod y person hwnnw wedi cymryd camau gweithredu yn y modd a grybwyllir yn adran 18(14).

(4)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(5)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi gallu ei drin pe bai’r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

21Rhwystro a dirmygu: adennill costau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—

(a)pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad sy’n ymwneud ag awdurdod rhestredig perthnasol o dan adran 16(2), a

(b)pan fo’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.

(2)Yr amod yw bod darparwr y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd (“y darparwr”)—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas â’r ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran darparwr dim ond am fod y darparwr wedi cymryd camau gweithredu fel y crybwyllir yn adran 18(14)(b).

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau”) i’r darparwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon gostau yr aeth yr Ombwdsmon iddynt o ganlyniad i’r rhwystr neu’r weithred a grybwyllir yn is-adran (2).

(5)Caiff y costau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) y costau o gael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(6)Rhaid i hysbysiad adennill costau—

(a)nodi ar ba sail y cyflwynir yr hysbysiad, gan gynnwys manylion y rhwystr neu’r weithred sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn bodloni’r amod yn is-adran (2),

(b)pennu’r swm y mae’n rhaid ei dalu i’r Ombwdsmon, ynghyd â manylion y swm hwnnw,

(c)pennu—

(i)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu, a

(ii)sut y caniateir talu, a

(d)egluro’r hawl i apelio yn is-adran (9).

(7)Rhaid i’r dyddiad talu a bennir o dan is-adran (6)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau yn hwyrach na’r dyddiad y caiff yr hysbysiad adennill costau ei gyflwyno i’r darparwr.

(8)Rhaid i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon y swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw (ond mae hyn yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn yr adran hon).

(9)Caiff y darparwr apelio i’r llys ynadon yn erbyn hysbysiad adennill costau cyn pen 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r darparwr; ac os bydd y darparwr yn gwneud hynny, nid yw is-adran (8) yn gymwys (ond gweler is-adrannau (15) ac (16)).

(10)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn bod yr hysbysiad i gael ei ddileu neu ei amrywio, ac yn unol â Deddf Llys Ynadon 1980 (p.43).

(11)At ddiben y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud cwyn i gael ei drin fel gwneud apêl.

(12)Y sail dros apêl yw bod penderfyniad yr Ombwdsmon i ddyroddi’r hysbysiad adennill costau—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol,

(b)yn anghywir mewn cyfraith, neu

(c)yn afresymol am unrhyw reswm.

(13)Ar apêl, caiff y llys ynadon—

(a)cadarnhau, dileu neu amrywio’r hysbysiad adennill costau, a

(b)gwneud y cyfryw orchymyn o ran costau sy’n briodol ym marn y llys ynadon.

(14)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn dileu neu’n amrywio’r hysbysiad adennill costau, caiff orchymyn yr Ombwdsmon i ddigolledu’r darparwr am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.

(15)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn cadarnhau’r hysbysiad adennill costau (gydag amrywiad neu heb amrywiad), rhaid i’r darparwr dalu’r swm sy’n daladwy yn rhinwedd yr hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(16)Pan fo apêl a wnaed o dan yr adran hon yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r darparwr dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff yr apêl ei thynnu’n ôl.

(17)Mae swm sy’n daladwy o dan yr adran hon i’w adennill yn ddiannod fel dyled sifil.

(18)Yn yr adran hon, mae i “gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” yr ystyr a roddir yn adran 16.

22Cyflwyno hysbysiad adennill costau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gyflwyno hysbysiad adennill costau o dan adran 21.

(2)Caniateir i hysbysiad adennill costau gael ei gyflwyno i berson—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad adennill costau i’w ddyroddi iddo wedi cytuno yn ysgrifenedig iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad adennill costau yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)At ddibenion is-adrannau (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

Adroddiadau ar ymchwiliadau

23Adroddiadau ar ymchwiliadau

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon, ar ôl cynnal ymchwiliad—

(a)paratoi adroddiad ynghylch canfyddiadau’r Ombwdsmon, a

(b)anfon copi o’r adroddiad at y personau a restrir yn is-adran (2),

ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 27.

(2)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw—

(a)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn, y person a wnaeth y gŵyn;

(b)yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(c)unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn (os oes un) ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol;

(d)os y w’r a wdurdod r hestredig y n d darparwr g wasanaeth i echyd t eulu y ng Nghymru—

(i)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol yr oedd yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, wedi ymrwymo i gontract ag ef i ddarparu’r gwasanaethau iechyd teulu sy’n destun ymchwiliad;

(ii)unrhyw berson yr oedd yr awdurdod, yr adeg honno, wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau hynny iddo;

(iii)unrhyw berson yr oedd yr awdurdod, yr adeg honno, wedi gwneud trefniadau ag ef ar gyfer darparu’r gwasanaethau hynny;

(e)os yw’r awdurdod rhestredig yn ddarparwr annibynnol yng Nghymru—

(i)unrhyw gorff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yr oedd yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, wedi gwneud trefniadau ag ef i ddarparu’r gwasanaethau sy’n destun ymchwiliad;

(ii)unrhyw ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru yr oedd yr awdurdod, yr adeg honno, wedi gwneud trefniadau ag ef i ddarparu’r gwasanaethau hynny;

(f)Prif Weinidog Cymru (oni bai mai’r awdurdod rhestredig yw Llywodraeth Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru).

(3)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (4), neu unrhyw ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (5).

(7)Os yw adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (1)(b) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4), yn ddarostyngedig i is-adran (8).

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

24Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau

(1)Os yw awdurdod rhestredig yn cael copi o adroddiad o dan adran 23(1)(b), rhaid i’r awdurdod sicrhau bod copïau o’r fersiwn honno o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, a

(b)os oes gan yr awdurdod wefan, ar y wefan honno.

(2)Drwy gydol y cyfnod hwnnw o dair wythnos, caiff unrhyw berson—

(a)archwilio copi o’r adroddiad yn y swyddfa neu’r swyddfeydd dan sylw ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;

(b)gwneud copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rhestredig roi copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono i’r person, wedi i’r person dalu swm rhesymol os gofynnir am hynny;

(d)gweld copi o’r adroddiad ar y wefan (os oes un) yn ddi-dâl.

(3)Heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cael copi o’r adroddiad rhaid i’r awdurdod rhestredig sicrhau bod hysbysiad yn cael ei gyhoeddi mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru lle digwyddodd y mater sy’n destun yr adroddiad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y dyddiad y bydd y cyfnod o dair wythnos y cyfeirir ato yn is-adran (1) yn cychwyn,

(b)y swyddfa neu’r swyddfeydd lle gellir archwilio copi o’r adroddiad, ac

(c)cyfeiriad gwefan yr awdurdod (os oes ganddo un).

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi cyfarwyddydau i awdurdodau rhestredig ynghylch cyflawni eu swyddogaethau o dan yr adran hon.

(6)Caiff cyfarwyddydau o dan is-adran (5) ymwneud â’r canlynol—

(a)awdurdod rhestredig penodol mewn perthynas ag adroddiad penodol, neu

(b)pob awdurdod rhestredig neu unrhyw un neu ragor ohonynt mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau yn gyffredinol o dan yr adran hon.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn fwriadol yn rhwystro person wrth iddo arfer hawl a roddir gan is-adran (2)(a), (b) neu (d), neu

(b)os yw’r person yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (2)(c).

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9)Caiff yr Ombwdsmon gyfarwyddo bod is-adrannau (1) i (4) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad penodol.

(10)Wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (9), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw bersonau eraill sy’n briodol, ym marn yr Ombwdsmon.

25Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau: darparwyr gofal iechyd

(1)Os caiff ymchwiliad ei gynnal yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, mae adran 24 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn is-adrannau (2) i (4).

(2)Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Rhaid i berson sydd wedi cael copi o adroddiad o dan adran 23 yn rhinwedd adran 23(2)(d) sicrhau bod copïau o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd y person, a

(b)os oes gan y person wefan, ar y wefan honno.

(3)Mae’r cyfeiriadau at yr awdurdod rhestredig i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at y person hwnnw.

(4)Mae’r cyfeiriadau at awdurdodau rhestredig, neu at awdurdod rhestredig penodol, i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at bersonau, neu berson penodol, o’r un disgrifiad â’r person hwnnw.

(5)Os caiff ymchwiliad ei gynnal yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, mae adran 24 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn is-adrannau (6) i (8).

(6)Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Rhaid i berson sydd wedi cael copi o adroddiad o dan adran 23 yn rhinwedd adran 23(2)(e) sicrhau bod copïau o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd y person, a

(b)os oes gan y person wefan, ar y wefan honno.

(7)Mae’r cyfeiriadau at yr awdurdod rhestredig i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at y person hwnnw.

(8)Mae’r cyfeiriadau at awdurdodau rhestredig, neu at awdurdod rhestredig penodol, i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at bersonau, neu berson penodol, o’r un disgrifiad â’r person hwnnw.

26Camau gweithredu ar ôl cael adroddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, mewn adroddiad o dan adran 23 ar ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.

(2)Rhaid i’r awdurdod rhestredig ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—

(a)am y camau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb iddo, a

(b)cyn diwedd pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw wedi gwneud hynny eisoes).

(3)Y cyfnod a ganiateir yw—

(a)y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn cael yr adroddiad, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

27Adroddiadau: gweithdrefn amgen

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a

(b)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 23 i 26 fod yn gymwys.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo,

(b)os yw’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac

(c)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 23 i 26 fod yn gymwys.

(3)Y cyfnod a ganiateir yw—

(a)cyfnod y cytunwyd arno rhwng yr Ombwdsmon a’r awdurdod rhestredig ac, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn, y person a wnaeth y gŵyn, neu

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir gwneud cytundeb o’r fath, y cyfnod a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)Caiff yr Ombwdsmon benderfynu paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r Ombwdsmon o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan adran 23.

(5)Os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu paratoi adroddiad o dan yr adran hon—

(a)nid yw adrannau 23 i 26 yn gymwys;

(b)rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at y canlynol—

(i)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn, y person a wnaeth y gŵyn;

(ii)yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(c)caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(6)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(7)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (6), neu unrhyw ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.

(8)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (7).

(9)Os yw adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (5) neu a gyhoeddir o dan is-adran (6), yn ddarostyngedig i is-adran (10).

(10)Nid yw is-adran (9) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

Adroddiadau arbennig

28Adroddiadau arbennig

(1)Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad arbennig”) os yw is-adran (2), (4) neu (6) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, mewn adroddiad o dan adran 23, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder eu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, ac—

(a)nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 26 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno,

(b)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—

(i)y camau gweithredu y mae’r awdurdod rhestredig wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu

(ii)cyn diwedd pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny, neu

(c)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod yr awdurdod rhestredig, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.

(3)Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (2)(c) yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 26(2)(b), neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 27(2), a

(b)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr awdurdod rhestredig wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(5)Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (4)(b) yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 27(2)(b), neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo wedi cael ei ddatrys,

(b)os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,

(c)os yw’r awdurdod rhestredig wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a

(d)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr awdurdod rhestredig wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(7)Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (6)(d) yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (6)(c), neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(8)Rhaid i adroddiad arbennig—

(a)nodi’r ffeithiau sy’n sail i gymhwyso is-adran (2), (4) neu (6), a

(b)gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—

(i)i unioni neu i atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a

(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.

(9)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig—

(a)os caiff yr adroddiad arbennig ei baratoi am fod is-adran (2) yn gymwys, at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad o dan adran 23 ato o dan adran 23(1)(b);

(b)os caiff yr adroddiad arbennig ei baratoi am fod is-adran (4) neu (6) yn gymwys—

(i)at y person a wnaeth y gŵyn, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn;

(ii)at yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

(10)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

29Adroddiadau arbennig: atodol

(1)Caiff yr Ombwdsmon—

(a)cyhoeddi adroddiad arbennig a wnaed o dan adran 28;

(b)rhoi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd neu unrhyw ran ohono i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(2)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad (neu ran o adroddiad) o dan is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i’r awdurdod rhestredig y gwneir adroddiad arbennig ar ei gyfer ad-dalu’r Ombwdsmon am y gost o gyhoeddi adroddiad arbennig os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon.

(4)Os yw adroddiad arbennig—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan adran 28(9) neu (10) neu a gyhoeddir o dan is-adran (1) o’r adran hon, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad arbennig os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw berson a dramgwyddwyd ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

(6)Mae adrannau 24 a 25 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau o dan adran 23) yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad arbennig o dan adran 28 yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad o dan adran 23.

30Adroddiadau arbennig sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os caiff adroddiad arbennig ei wneud mewn achos pan gafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i’r person perthnasol osod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y person perthnasol” yw—

(a)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Cymru, a

(b)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aelod o’r Comisiwn hwnnw.

Awdurdodau rhestredig

31Awdurdodau rhestredig

(1)Mae’r personau a bennir yn Atodlen 3 yn awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 3 drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)hepgor person, neu

(c)newid y disgrifiad o berson.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3 ddarparu bod y Ddeddf hon yn gymwys i’r person hwnnw gyda’r addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon ac unrhyw bersonau eraill sydd, yn eu barn hwy, yn briodol.

(5)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(6)Mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys cyfyngiadau pellach ar y pŵer yn is-adran (2).

32Cyfyngiadau ar bŵer i ddiwygio Atodlen 3

(1)Ni chaniateir i reoliadau o dan adran 31(2) hepgor Llywodraeth Cymru na Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Atodlen 3.

(2)Caniateir i reoliadau o dan adran 31(2) ychwanegu person at Atodlen 3 dim ond os byddai’r ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

33Darpariaethau mewn rheoliadau sy’n ychwanegu personau at Atodlen 3

Os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau o dan adran 31(2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3, rhaid iddynt hefyd bennu’r canlynol yn y rheoliadau—

(a)pa un a yw holl swyddogaethau’r person, ai dim ond rhai ohonynt, i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan y Rhan hon;

(b)os mai dim ond rhai o swyddogaethau’r person sydd i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan y Rhan hon, pa rai yw’r swyddogaethau hynny.

34Pŵer i ddyroddi canllawiau

(1)Caiff yr Ombwdsmon ddyroddi i un neu ragor o awdurdodau rhestredig y cyfryw ganllawiau ynghylch arferion gweinyddu da sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r cyfryw awdurdodau rhestredig, neu bersonau yr ymddengys i’r Ombwdsmon eu bod yn cynrychioli’r awdurdodau rhestredig hynny, sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(3)Os yw canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon yn gymwys i awdurdod rhestredig, rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r canllawiau wrth gyflawni ei swyddogaethau.

(4)Wrth gynnal ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, caiff yr Ombwdsmon ystyried y graddau y mae’r awdurdod wedi cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan yr adran hon sy’n gymwys i’r awdurdod.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, gan gynnwys yn benodol drwy roi’r canllawiau mewn adroddiad blynyddol neu eithriadol.

(6)Caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(7)Yn ddarostyngedig i is-adran (8), ni chaiff canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon—

(a)crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdodau rhestredig y mae’r canllawiau yn gymwys iddynt, neu awdurdod rhestredig yr ymchwiliwyd iddo o dan y Rhan hon, na

(b)cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y canllawiau.

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw bersonau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y canllawiau.

Digolledu

35Digolledu’r person a dramgwyddwyd

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os caiff cwyn mewn perthynas â mater ei gwneud neu ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon, a

(b)os yw’r gŵyn yn un y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddi o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr awdurdod rhestredig y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef wneud taliad i’r person a dramgwyddwyd, neu ddarparu unrhyw fudd arall i’r person a dramgwyddwyd, mewn perthynas â’r mater sy’n destun y gŵyn.

(3)Nid yw’n berthnasol at ddibenion yr adran hon fod yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r gŵyn, wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad i’r gŵyn, nad yw eto wedi cwblhau ymchwiliad i’r gŵyn, neu nad yw wedi cadarnhau’r gŵyn.

(4)Nid yw’r pŵer yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod rhestredig i wneud y taliad neu i ddarparu’r budd.