xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3YMCHWILIADAU

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

18Gweithdrefn ymchwilio

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 3, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wneud sylwadau ar unrhyw honiadau yn y gŵyn;

(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar unrhyw honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 4, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio—

(i)i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo, a

(ii)i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 3 neu 4 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 4 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn cysylltiad â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater a phan nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad cysylltiedig, i wneud sylwadau ynghylch yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 5.

(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)Yn benodol, caiff yr Ombwdsmon—

(a)gwneud y cyfryw ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol;

(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu fel arall.

(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)y cyfryw symiau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)y cyfryw lwfansau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt i ddigolledu’r person am ei amser,

yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt.

(13)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4.

(14)Nid yw cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig yn effeithio ar y canlynol—

(a)dilysrwydd unrhyw gamau gweithredu a gymerodd yr awdurdod rhestredig, neu

(b)unrhyw bŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod rhestredig i gymryd camau gweithredu pellach mewn perthynas ag unrhyw fater yr ymchwilir iddo.

19Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliadau a gynhelir o dan y Rhan hon.

(2)At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.

(3)At ddibenion ymchwiliad, mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—

(a)presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a

(b)dangos dogfennau.

(4)At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson at ddibenion ymchwiliad i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.

(6)Nid oes rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi,pa un a osodwyd y rhwymedigaeth honno gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, i fod yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ymchwiliad.

(7)Nid oes gan y Goron hawl, mewn perthynas ag ymchwiliad, i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.

20Rhwystro a dirmygu

(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Ond nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person dim ond am fod y person hwnnw wedi cymryd camau gweithredu yn y modd a grybwyllir yn adran 18(14).

(4)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(5)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi gallu ei drin pe bai’r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

21Rhwystro a dirmygu: adennill costau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—

(a)pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad sy’n ymwneud ag awdurdod rhestredig perthnasol o dan adran 16(2), a

(b)pan fo’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.

(2)Yr amod yw bod darparwr y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd (“y darparwr”)—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas â’r ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran darparwr dim ond am fod y darparwr wedi cymryd camau gweithredu fel y crybwyllir yn adran 18(14)(b).

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau”) i’r darparwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon gostau yr aeth yr Ombwdsmon iddynt o ganlyniad i’r rhwystr neu’r weithred a grybwyllir yn is-adran (2).

(5)Caiff y costau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) y costau o gael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(6)Rhaid i hysbysiad adennill costau—

(a)nodi ar ba sail y cyflwynir yr hysbysiad, gan gynnwys manylion y rhwystr neu’r weithred sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn bodloni’r amod yn is-adran (2),

(b)pennu’r swm y mae’n rhaid ei dalu i’r Ombwdsmon, ynghyd â manylion y swm hwnnw,

(c)pennu—

(i)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu, a

(ii)sut y caniateir talu, a

(d)egluro’r hawl i apelio yn is-adran (9).

(7)Rhaid i’r dyddiad talu a bennir o dan is-adran (6)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau yn hwyrach na’r dyddiad y caiff yr hysbysiad adennill costau ei gyflwyno i’r darparwr.

(8)Rhaid i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon y swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw (ond mae hyn yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn yr adran hon).

(9)Caiff y darparwr apelio i’r llys ynadon yn erbyn hysbysiad adennill costau cyn pen 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r darparwr; ac os bydd y darparwr yn gwneud hynny, nid yw is-adran (8) yn gymwys (ond gweler is-adrannau (15) ac (16)).

(10)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn bod yr hysbysiad i gael ei ddileu neu ei amrywio, ac yn unol â Deddf Llys Ynadon 1980 (p.43).

(11)At ddiben y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud cwyn i gael ei drin fel gwneud apêl.

(12)Y sail dros apêl yw bod penderfyniad yr Ombwdsmon i ddyroddi’r hysbysiad adennill costau—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol,

(b)yn anghywir mewn cyfraith, neu

(c)yn afresymol am unrhyw reswm.

(13)Ar apêl, caiff y llys ynadon—

(a)cadarnhau, dileu neu amrywio’r hysbysiad adennill costau, a

(b)gwneud y cyfryw orchymyn o ran costau sy’n briodol ym marn y llys ynadon.

(14)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn dileu neu’n amrywio’r hysbysiad adennill costau, caiff orchymyn yr Ombwdsmon i ddigolledu’r darparwr am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.

(15)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn cadarnhau’r hysbysiad adennill costau (gydag amrywiad neu heb amrywiad), rhaid i’r darparwr dalu’r swm sy’n daladwy yn rhinwedd yr hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(16)Pan fo apêl a wnaed o dan yr adran hon yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r darparwr dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff yr apêl ei thynnu’n ôl.

(17)Mae swm sy’n daladwy o dan yr adran hon i’w adennill yn ddiannod fel dyled sifil.

(18)Yn yr adran hon, mae i “gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” yr ystyr a roddir yn adran 16.

22Cyflwyno hysbysiad adennill costau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gyflwyno hysbysiad adennill costau o dan adran 21.

(2)Caniateir i hysbysiad adennill costau gael ei gyflwyno i berson—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad adennill costau i’w ddyroddi iddo wedi cytuno yn ysgrifenedig iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad adennill costau yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)At ddibenion is-adrannau (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.