xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

2019 dccc 2

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gwahardd personau rhag ei gwneud yn ofynnol i daliadau penodol gael eu gwneud neu i gamau penodol eraill gael eu cymryd yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol; i wneud darpariaeth ynghylch blaendaliadau cadw ac mewn perthynas â gofynion i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd penodol a godir gan asiantiaid gosod eiddo; ac at ddibenion cysylltiedig.

[15 Mai 2019]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1LL+CTROSOLWG

1Trosolwg o’r DdeddfLL+C

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn drosedd i landlord neu asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliadau penodol gael eu gwneud, neu i gamau penodol eraill gael eu cymryd yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch ad-dalu blaendaliadau cadw (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1).

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodaeth, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol, a chosbau penodedig.

(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill taliadau a waherddir gan y Ddeddf hon, a blaendaliadau cadw a gedwir yn ôl yn groes i’r Ddeddf hon.

(6)Mae Rhan 6 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd penodol a godir gan asiantiaid gosod eiddo.

(7)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch y gofynion gweithdrefnol ar gyfer gwneud rheoliadau, ac ynghylch cymhwyso i’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 1 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

RHAN 2LL+CGWAHARDD TALIADAU PENODOL ETC.

2Gwaharddiadau sy’n gymwys i landlordiaidLL+C

(1)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r landlord, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn darparu i wasanaethau gael eu darparu gan berson y mae’r contract meddiannaeth safonol yn rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd, neu y byddai’n rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd (pa un a yw’r contract am wasanaethau hefyd yn darparu i unrhyw berson arall ddarparu gwasanaethau ai peidio).

(4)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I4A. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

3Gwaharddiadau sy’n gymwys i asiantiaid gosod eiddoLL+C

(1)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r asiant gosod eiddo, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn gontract rhwng landlord ac asiant gosod eiddo yn unig, mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant i ymgymryd ag ef ar ran y landlord.

(4)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I6A. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

4Taliadau gwaharddedig a thaliadau a ganiateirLL+C

(1)Mae unrhyw daliad o arian yn daliad gwaharddedig oni bai—

(a)ei fod yn daladwy gan landlord i asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant yn ymgymryd ag ef ar ran y landlord, neu

(b)ei fod yn daliad a ganiateir yn rhinwedd Atodlen 1.

(2)Mae’r Atodlen honno yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)rhent;

(b)blaendaliadau sicrwydd;

(c)blaendaliadau cadw;

(d)diffygdaliadau;

(e)taliadau mewn cysylltiad â’r dreth gyngor;

(f)taliadau mewn cysylltiad â chyfleustodau;

(g)taliadau mewn cysylltiad â thrwydded deledu;

(h)taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfathrebu.

[F1(i)taliadau gwasanaeth;]

[F2(j)taliadau mewn cysylltiad â chopïau pellach o ddatganiad ysgrifenedig]

Diwygiadau Testunol

F1A. 4(2)(i) wedi ei fewnosod (gydag effaith yn unol ag s.15(4) o'r Ddeddf diwygio) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 15(2), 19(1) (ynghyd ag a. 15(5)-(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I8A. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

5Telerau contract nad ydynt yn rhwymoLL+C

(1)Nid yw teler mewn contract meddiannaeth safonol yn rhwymo deiliad contract i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud, neu i ymrwymo i gontract am wasanaethau, neu i fenthyciad gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3.

(2)Ond mae’r contract yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I10A. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

6Cymhwyso adrannau 2 i 5 i ofynion a chontractau sydd eisoes yn bodoliLL+C

Nid yw adrannau 2 i 5 yn gymwys mewn cysylltiad ag—

(a)gofyniad a osodir cyn i’r Rhan hon ddod i rym;

F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I12A. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

7Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o “taliad a ganiateir”LL+C

(1)Caiff rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddibenion ychwanegu, addasu neu ddileu cyfeiriad yn Atodlen 1 at gategori o daliad.

(2)Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn estyn i ddileu talu rhent o’r categorïau o daliad sy’n daliadau a ganiateir o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I14A. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

8Ystyr “asiant gosod eiddo”, “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo”LL+C

At ddibenion y Rhan hon a Rhannau 3 i 5—

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I16A. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

RHAN 3LL+CTRIN BLAENDALIADAU CADW

9Trin blaendaliadau cadwLL+C

(1)Mae taliad sy’n daliad a ganiateir yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 1 (sy’n caniatáu talu blaendaliadau cadw) i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn unol â’r telerau a nodir yn Atodlen 2.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â thaliad a wneir cyn i Atodlen 2 ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I18A. 9 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

RHAN 4LL+CGORFODAETH

Pwerau awdurdod gorfodi i wneud gwybodaeth etc. yn ofynnolLL+C

10Pŵer i wneud dogfennau neu wybodaeth yn ofynnolLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod at ddiben ymchwilio i ba un a gyflawnwyd unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod gorfodi.

(2)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gyflwyno, ar amser, mewn lleoliad, ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw ddogfennau—

(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a

(b)sydd yng ngwarchodaeth y person neu o dan reolaeth y person.

(3)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu, ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, ac ar amser, mewn lle ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth—

(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)sy’n hysbys i’r person.

(4)Y personau o fewn yr adran hon yw—

(a)person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth safonol neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

(b)person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

(c)person sy’n asiant gosod eiddo neu sydd wedi bod yn asiant o’r fath.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth ynghylch canlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(6)Caiff person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

(7)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu ddarparu unrhyw wybodaeth y byddai gan y person hawl i wrthod ei chyflwyno neu ei darparu, mewn achos yn yr Uchel Lys, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

(8)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I20A. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

11Trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 10LL+C

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r person ei wneud gan hysbysiad o dan adran 10.

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’n drosedd i berson fynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen yr oedd yn ofynnol i’r person ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 10.

(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly—

(a)mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

(b)mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r modd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I22A. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

12Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â hysbysiad o dan adran 10LL+C

(1)Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

(a)yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(2)Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

(a)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a

(b)yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I24A. 12 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

13Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu 3 yn ardal yr awdurdod, caiff y swyddog roi hysbysiad cosb benodedig i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2)Hysbysiad cosb benodedig, at ddibenion is-adran (1), yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson ryddhau unrhyw atebolrwydd i gael euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb o £1000.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

(4)Mae hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei roi o dan adran 29 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) at ddibenion is-adrannau (2), (3) a (6) i (8) o’r adran honno (darpariaeth ynghylch sut y rhoddir hysbysiadau cosb benodedig) ac at y diben hwn mae’r cyfeiriad at “yr awdurdod trwyddedu” yn is-adran (8)(a) o’r adran honno i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr awdurdod gorfodi o dan sylw.

(5)Ni chaniateir i dderbyniadau cosb benodedig a geir gan awdurdod gorfodi yn rhinwedd yr adran hon gael eu defnyddio heblaw at ddiben swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I26A. 13 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

Hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddeduLL+C

14Dyletswydd awdurdod tai lleol i hysbysu awdurdod trwyddedu am euogfarnLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).

(2)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.

(3)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I28A. 14 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

CanllawiauLL+C

15Dyletswydd i roi sylw i ganllawiauLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod gorfodi roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I30A. 15 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

Ystyr “swyddog awdurdodedig” yn y Rhan honLL+C

16Ystyr “swyddog awdurdodedig”LL+C

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi yn gyfeiriad at berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I32A. 16 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

Yr awdurdod gorfodi at ddibenion y Rhan honLL+C

17Awdurdodau gorfodiLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ardal awdurdod tai lleol yw pob un o’r canlynol—

(a)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal, a

(b)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal.

(2)Ond ni chaiff awdurdod trwyddedu sydd, yn rhinwedd is-adran (1)(b), yn awdurdod gorfodi ar gyfer ardal awdurdod tai lleol, arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r ardal honno, na dwyn achos o dan adran 19 mewn perthynas â’r ardal honno, heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal.

(3)Caniateir i gydsyniad o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu swyddogaethau penodol.

(4)At ddibenion yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu” yw person sydd wedi ei ddynodi’n awdurdod trwyddedu o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

(5)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ardal awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at yr ardal y mae’n awdurdod gorfodi ar ei chyfer, neu’r ardaloedd y mae’n awdurdod gorfodi ar eu cyfer, yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I34A. 17 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

Rhannu gwybodaeth a’r pŵer i ddwyn achos troseddolLL+C

18Darparu a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau gorfodiLL+C

(1)Os yw awdurdod gorfodi yn gofyn am wybodaeth gan awdurdod gorfodi arall, rhaid i’r awdurdod arall hwnnw gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy ar wahân i fod o dan y Rhan hon).

(2)Yr wybodaeth y gellir gofyn amdani gan awdurdod gorfodi o dan is-adran (1) yw gwybodaeth y mae’r awdurdod hwnnw wedi ei chael—

(a)o dan yr adran hon, a

(b)fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(3)Caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a), (b) neu (c) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

(4)Yn ogystal â hynny, caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a) neu (b) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”).

(5)Yr wybodaeth yw honno—

(a)sydd wedi ei darparu iddo gan awdurdod gorfodi arall o dan is-adran (1);

(b)y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei chael fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon;

(c)y mae ganddo, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf 2014, ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.

(6)Nid yw adran 17(2) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddir i awdurdod gorfodi gan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I36A. 18 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

19Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddolLL+C

Caiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn cysylltiad â throsedd yr honnir iddi gael ei chyflawni o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ei ardal (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17(2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I38A. 19 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

Rhagolygol

Cyfyngiadau ar derfynu gan landlord gontractau meddiannaeth safonolLL+C

[F420Cyfyngiadau ar derfynu contractau meddiannaeth safonolLL+C

Mae Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chontractau meddiannaeth safonol sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant o annedd o dan adran 173 neu 186 o’r Ddeddf honno, neu o dan gymal terfynu’r landlord, os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

Canllawiau i awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014LL+C

21Diwygio adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014LL+C

Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I41A. 21 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

RHAN 5LL+CADENNILL SWM GAN DDEILIAD Y CONTRACT

22Adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadwLL+C

(1)Caiff person (yr “hawlydd”) wneud cais i’r llys sirol i adennill swm—

(a)unrhyw daliad gwaharddedig a wnaed gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol;

(b)unrhyw flaendal cadw a dalwyd gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

(2)Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(a), os yw’r llys wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol—

(a)bod taliad gwaharddedig wedi ei wneud gan yr hawlydd, neu ar ei ran, a

(b)bod y taliad cyfan hwnnw eto i’w dalu i’r hawlydd, neu fod rhan o’r taliad hwnnw eto i’w thalu iddo,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y taliad neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad.

(3)Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(b), os yw’r llys wedi ei fodloni, yn ôl pwysau tebygolrwydd—

(a)bod blaendal cadw wedi ei dalu gan yr hawlydd neu ar ei ran, a

(b)y methwyd ag ad-dalu’r blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, i’r hawlydd yn unol ag Atodlen 2,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y blaendal cadw neu (mewn achos pan fo rhan o’r blaendal cadw wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r blaendal cadw.

(4)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwaharddedig os yw achos troseddol wedi ei gychwyn yn rhinwedd adran 2 neu 3 mewn cysylltiad â’r taliad hwnnw, oni bai bod yr achos hwnnw wedi ei derfynu.

(5)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3) wneud ad-dalu swm yn ofynnol, os yw’r swm hwnnw wedi ei roi tuag at dalu rhent, neu’r blaendal sicrwydd, o dan y contract meddiannaeth safonol o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I43A. 22 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

RHAN 6LL+CRHOI CYHOEDDUSRWYDD I FFIOEDD ASIANTIAID GOSOD EIDDO

23Rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd asiantiaid gosod eiddoLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddiwygio Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (c. 15) (dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd etc.)—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i asiant gosod eiddo sicrhau bod unrhyw hysbysebwr ar-lein yn rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yr asiant, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny’n ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru;

(b)i ganiatáu i fwy nag un gosb gael ei gosod ar asiant gosod eiddo mewn perthynas â’r un achos o dorri dyletswydd yn y Bennod honno, i’r graddau y mae’r toriad yn ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “hysbysebwr ar-lein”, mewn perthynas ag asiant gosod eiddo, yw person sy’n hysbysebu, ar y fewnrwyd, wasanaethau y mae’r asiant yn eu cynnig mewn perthynas ag anhedd-dai yng Nghymru;

(b)mae i “anhedd-dy”, “asiant gosod eiddo” a “ffioedd perthnasol” yr un ystyron â “dwelling-house”, “letting agent” a “relevant fees” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I45A. 23 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

RHAN 7LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

24Gofyniad i awdurdod tai lleol hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith y DdeddfLL+C

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i wybodaeth fod ar gael yn gyhoeddus yn ei ardal, ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod yn meddwl sy’n briodol, am effaith y Ddeddf hon, gan gynnwys sut y gellir adennill taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw.

(2)Wrth wneud trefniadau at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I47A. 24 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

F525Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thenantiaethau sicrLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

26Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

(a)uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.

(3)Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I49A. 26 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

27RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 7, adran 13 neu baragraffau 2 neu 6 o Atodlen 1 (pa un a yw’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon ai peidio) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I51A. 27 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

28DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I53A. 28 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

29Cymhwyso i’r GoronLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.

(2)Nid yw unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon yn gwneud y Goron yn atebol yn droseddol, ond caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred ar ran y Goron sy’n gyfystyr â thoriad o’r fath yn anghyfreithlon.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I55A. 29 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

30Dod i rymLL+C

(1)Mae’r adran hon ac adran 31 yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 30 mewn grym ar 16.5.2019, gweler a. 30(1)

31Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 31 mewn grym ar 16.5.2019, gweler a. 30(1)

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1LL+CTaliadau a Ganiateir

RhentLL+C

1(1)Mae taliad rhent o dan gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.

(2)Ond, yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, os yw swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol (“C1”) yn fwy na swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol arall (“C2”), mae’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 yn daliad gwaharddedig.

(3)Pan fo mwy nag un cyfnod perthnasol heblaw C1, C2 yw pa un bynnag o’r cyfnodau perthnasol eraill hynny y mae’r swm isaf o rent yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.

(4)Mewn achos pan fo hyd un cyfnod perthnasol (C1) yn wahanol i hyd un arall (C2), er mwyn pennu—

(a)pa un a yw taliad gwaharddedig wedi ei wneud yn rhinwedd is-baragraff (2), a

(b)os felly, swm y taliad gwaharddedig,

mae’r camau a ganlyn i’w cymryd.

(5)Pan fo—

(a)rhent yn daladwy yn fisol mewn cysylltiad ag C1 ac C2, neu pan fo C1 ac C2 ill dau yn gyfnodau a gyfrifir drwy gyfeirio at yr un nifer o fisoedd calendr, a

(b)swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 ac C2 yr un fath,

mae C1 ac C2 i’w trin at ddibenion Cam 2 yn is-baragraff (4) fel pe bai ganddynt yr un CDdB.

(6)Rhaid diystyru unrhyw wahaniaeth rhwng y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 a chyfnod perthnasol arall i’r graddau y mae’n deillio o amrywiad a ganiateir i’r rhent.

(7)Yn is-baragraff (6), ystyr “amrywiad a ganiateir”, mewn perthynas â rhent sy’n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol, yw amrywiad a wneir—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract;

(b)yn unol â theler yn y contract sy’n darparu ar gyfer amrywio’r rhent o dan y contract;

(c)gan ddeddfiad neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(8)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) a gynhwysir yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(i)Deddf Seneddol,

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol, yw unrhyw gyfnod y mae rhent i’w dalu mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I59Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Blaendal sicrwyddLL+C

2(1)Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—

(a)cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu

(b)rhyddhau unrhyw atebolrwydd,

sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.

(3)Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I61Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Blaendal cadwLL+C

3Mae taliad blaendal cadw yn daliad a ganiateir.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I63Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

4Blaendal cadw yw swm—

(a)a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol;

(b)a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract;

(c)nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I65Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

5Pan fo swm sy’n ofynnol gan honni cydymffurfio â’r paragraff hwn yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig, ac mae’r gweddill i’w drin yn unol ag Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I67Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad yn achos diffygdaliadLL+C

6(1)Mae taliad y mae’n ofynnol ei wneud yn achos diffygdaliad gan ddeiliad y contract, o dan gontract meddiannaeth safonol, yn daliad a ganiateir, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “diffygdaliad” yw—

(a)methiant gan ddeiliad y contract i wneud taliad i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus, neu

(b)toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract.

(3)Yn achos diffygdaliad y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, os yw swm y taliad sy’n ofynnol yn achos y diffygdaliad yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus;

(b)unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad a bennir gan reoliadau.

(5)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I69Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â’r dreth gyngorLL+C

7(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r dreth gyngor yn daliad a ganiateir os yw deiliad y contract yn atebol am wneud y taliad yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6, 8 neu 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (c. 14).

(2)Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr un ystyr ag a roddir i “billing authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I71Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â darparu cyfleustodauLL+C

8(1)Mae taliad ar gyfer darparu cyfleustod, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Mae taliad tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni o dan gynllun y fargen werdd (o fewn yr ystyr a roddir i “green deal plan” gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2011 (p.16)) yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cyfleustod” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)trydan, nwy neu danwydd arall;

(b)dŵr neu garthffosiaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I73Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â thrwydded deleduLL+C

9(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mewn cysylltiad â thrwydded deledu yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol gan y contract i ddeiliad y contract wneud y taliad.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “trwydded deledu” yw trwydded at ddibenion adran 363 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (c. 21).

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I75Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â gwasanaeth cyfathrebuLL+C

10(1)Mae taliad ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasanaeth cyfathrebu” yw gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un neu ragor o’r canlynol i gael ei ddefnyddio neu eu defnyddio—

(a)ffôn ac eithrio ffôn symudol;

(b)y rhyngrwyd;

(c)teledu cebl;

(d)teledu lloeren.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I77Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliadau gwasanaeth sy’n daladwy i landlordiaid cymunedol etc.LL+C

[F610A(1)Mae tâl gwasnaeth yn daliad a ganiateir os—

(a)yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)yw’r landlord yn landlord cymunedol.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)contract meddiannaeth safonol o fewn paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016 (llety nad yw’n llety cymdeithasol), neu

(b)contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol o fewn adran 143 o Ddeddf 2016 (contractau sy’n ymwneud â llety â chymorth).

(4)At ddibenion y paragraff hwn—

Diwygiadau Testunol

F6Atod. 1 para. 10A wedi ei fewnosod (ynghyd ag effect in accordance ynghyd ag a. 15(4) of the amending Deddf) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 15(1), 19(1) (ynghyd ag a. 15(5)-(7))

Taliad am gopi pellach o ddatganiad ysgrifenedigLL+C

[F710BMae taliad ffi resymol am ddatganiad ysgrifenedig pellach o gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.]

Newid ystyr “amrywiad a ganiateir” ym mharagraff 1LL+C

11Os yw rheoliadau a wneir o dan adran 7 yn diwygio’r Atodlen hon er mwyn newid ystyr “amrywiad a ganiateir” at ddibenion paragraff 1, cânt hefyd wneud diwygiadau canlyniadol i Bennod 3 o Ran 6 a Phennod 3 o Ran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (amrywio contractau meddiannaeth safonol).

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I79Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

(a gyflwynir gan adran 9)

ATODLEN 2LL+CYmdrin â Blaendal Cadw

CymhwysoLL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan delir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

(2)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at ddeiliad contract, mewn perthynas â blaendal cadw, yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl i gael y cynnig cyntaf wedi ei gadw gan y blaendal cadw.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I81Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Ystyr “terfyn amser ar gyfer cytundeb”LL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr y “terfyn amser ar gyfer cytundeb” yw pymthegfed diwrnod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y telir y blaendal cadw.

(2)Ond caiff y partïon gytuno yn ysgrifenedig i ddiwrnod gwahanol fod y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-baragraff (1) i newid y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I83Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Gofyniad i ad-dalu blaendal cadwLL+C

3Yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, rhaid i’r person a gafodd y blaendal cadw ei ad-dalu⁠—

(a)os yw’r partïon yn ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, neu

(b)os yw’r partïon yn methu ag ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I85Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

4Rhaid ad-dalu’r blaendal o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ag—

(a)pan fo paragraff 3(a) yn gymwys, y diwrnod y gwneir y contract, neu

(b)pan fo paragraff 3(b) yn gymwys, y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I87Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

EithriadauLL+C

5Nid yw paragraff 3(a) yn gymwys i’r graddau y cymhwysir swm y blaendal—

(a)tuag at y taliad rhent cyntaf o dan y contract, neu

(b)tuag at dalu blaendal sicrwydd o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I89Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

6Os cymhwysir y blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, yn unol â pharagraff 5(b), caiff y swm a gymhwysir ei drin at ddibenion adran 45 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) fel pe bai wedi ei dalu ar y dyddiad y gwneir y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I91Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

7Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ac—

(a)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried y gwahaniaeth rhwng yr wybodaeth a ddarparwyd gan ddeiliad y contract a’r wybodaeth gywir wrth benderfynu pa un ai i roi contract i ddeiliad y contract, neu

(b)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried gweithred deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth benderfynu pa un ai i roi contract o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I93Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

8Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn hysbysu’r landlord neu’r asiant gosod eiddo cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb bod deiliad y contract wedi penderfynu peidio ag ymrwymo i gontract.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I95Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

9Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i landlord—

(a)os yw’r landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, ond

(b)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I97Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

10Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i asiant gosod eiddo—

(a)os yw’r asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, a

(b)bod y landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw, ond

(c)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I99Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Darpariaeth atodol ynghylch eithriadau ym mharagraffau 8 i 10LL+C

11(1)Ni ellir dibynnu ar yr eithriadau a bennir ym mharagraffau 8, 9 a 10 oni fodlonir yr amod yn is-baragraff (2).

(2)Yr amod yw, cyn talu’r blaendal cadw, fod deiliad y contract wedi cael yr wybodaeth sydd o fewn is-baragraff (3) oddi wrth naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo (os yw asiant o’r fath wedi ei gyfarwyddo gan y landlord mewn perthynas â’r contract).

(3)Mae gwybodaeth sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn wybodaeth a bennir mewn rheoliadau, neu’n wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(4)Nid yw gwybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu i ddeiliad y contract, at ddibenion is-baragraff (1), oni bai ei bod wedi ei darparu ym mha ffordd bynnag (os oes un) a bennir yn y rheoliadau.

(5)Mewn achos pan fo landlord wedi cyfarwyddo asiant gosod eiddo mewn perthynas â chontract, ni chaniateir dibynnu ar yr eithriad ym mharagraff 9, yn ogystal, oni bai bod yr asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I101Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 20)

F8ATODLEN 3LL+CDiwygiadau i ddeddf rhentu cartrefi (cymru) 2016

Diwygiadau Testunol

F81LL+C. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiad ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant: contractau safonol cyfnodolLL+C

F82. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F83. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodolLL+C

F84. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contractau safonol cyfnod penodolLL+C

F85. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar lys yn gwrando hawliad meddiant gan landlordLL+C

F86. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Darpariaeth ganlyniadol amrywiolLL+C

F87. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .