8Ystyr “asiant gosod eiddo”, “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo”LL+C
At ddibenion y Rhan hon a Rhannau 3 i 5—
ystyr “asiant gosod eiddo” (“letting agent”) yw person sy’n ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo (pa un a yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith arall ai peidio);
mae i “gwaith gosod” (“lettings work”) a “gwaith rheoli eiddo” (“property management work”) yr un ystyron ag yn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (gweler adrannau 10 a 12 o’r Rhan honno).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.9.2019) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)