5Telerau contract nad ydynt yn rhwymoLL+C
(1)Nid yw teler mewn contract meddiannaeth safonol yn rhwymo deiliad contract i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud, neu i ymrwymo i gontract am wasanaethau, neu i fenthyciad gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3.
(2)Ond mae’r contract yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.9.2019) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)