4Taliadau gwaharddedig a thaliadau a ganiateirLL+C
(1)Mae unrhyw daliad o arian yn daliad gwaharddedig oni bai—
(a)ei fod yn daladwy gan landlord i asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant yn ymgymryd ag ef ar ran y landlord, neu
(b)ei fod yn daliad a ganiateir yn rhinwedd Atodlen 1.
(2)Mae’r Atodlen honno yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)rhent;
(b)blaendaliadau sicrwydd;
(c)blaendaliadau cadw;
(d)diffygdaliadau;
(e)taliadau mewn cysylltiad â’r dreth gyngor;
(f)taliadau mewn cysylltiad â chyfleustodau;
(g)taliadau mewn cysylltiad â thrwydded deledu;
(h)taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfathrebu.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.9.2019) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)