RHAN 7DARPARIAETHAU TERFYNOL

26Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)

Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

(a)

uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu

(b)

person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2)

Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.

(3)

Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.