Valid from 01/09/2019
26Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C
(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—
(a)uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,
mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.
(3)Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)