Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

25Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thenantiaethau sicrLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth er mwyn i’r Ddeddf hon fod yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a bennir gan y rheoliadau, mewn perthynas â thenantiaeth sicr ar gyfer annedd.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae i “tenantiaeth sicr” yr un ystyr ag “assured tenancy” yn Neddf Tai 1988 (c. 50) (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliadol sicr).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 25 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)