RHAN 6RHOI CYHOEDDUSRWYDD I FFIOEDD ASIANTIAID GOSOD EIDDO

23Rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd asiantiaid gosod eiddo

(1)

Caiff rheoliadau ddiwygio Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (c. 15) (dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd etc.)—

(a)

i’w gwneud yn ofynnol i asiant gosod eiddo sicrhau bod unrhyw hysbysebwr ar-lein yn rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yr asiant, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny’n ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru;

(b)

i ganiatáu i fwy nag un gosb gael ei gosod ar asiant gosod eiddo mewn perthynas â’r un achos o dorri dyletswydd yn y Bennod honno, i’r graddau y mae’r toriad yn ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru.

(2)

Yn yr adran hon—

(a)

ystyr “hysbysebwr ar-lein”, mewn perthynas ag asiant gosod eiddo, yw person sy’n hysbysebu, ar y fewnrwyd, wasanaethau y mae’r asiant yn eu cynnig mewn perthynas ag anhedd-dai yng Nghymru;

(b)

mae i “anhedd-dy”, “asiant gosod eiddo” a “ffioedd perthnasol” yr un ystyron â “dwelling-house”, “letting agent” a “relevant fees” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.