RHAN 4GORFODAETH
Canllawiau i awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014
21Diwygio adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014
Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)
Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.”