RHAN 4GORFODAETH
Rhannu gwybodaeth a’r pŵer i ddwyn achos troseddol
18Darparu a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau gorfodi
(1)
Os yw awdurdod gorfodi yn gofyn am wybodaeth gan awdurdod gorfodi arall, rhaid i’r awdurdod arall hwnnw gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy ar wahân i fod o dan y Rhan hon).
(2)
Yr wybodaeth y gellir gofyn amdani gan awdurdod gorfodi o dan is-adran (1) yw gwybodaeth y mae’r awdurdod hwnnw wedi ei chael—
(a)
o dan yr adran hon, a
(b)
fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(3)
Caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a), (b) neu (c) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.
(4)
Yn ogystal â hynny, caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a) neu (b) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”).
(5)
Yr wybodaeth yw honno—
(a)
sydd wedi ei darparu iddo gan awdurdod gorfodi arall o dan is-adran (1);
(b)
y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei chael fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon;
(c)
y mae ganddo, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf 2014, ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.
(6)
Nid yw adran 17(2) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddir i awdurdod gorfodi gan yr adran hon.