RHAN 4GORFODAETH

Yr awdurdod gorfodi at ddibenion y Rhan hon

17Awdurdodau gorfodi

(1)

At ddibenion y Rhan hon, yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ardal awdurdod tai lleol yw pob un o’r canlynol—

(a)

yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal, a

(b)

yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal.

(2)

Ond ni chaiff awdurdod trwyddedu sydd, yn rhinwedd is-adran (1)(b), yn awdurdod gorfodi ar gyfer ardal awdurdod tai lleol, arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r ardal honno, na dwyn achos o dan adran 19 mewn perthynas â’r ardal honno, heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal.

(3)

Caniateir i gydsyniad o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu swyddogaethau penodol.

F1(3A)

At ddibenion y Rhan hon fel y mae’n ymwneud â throseddau o dan Ran 2A neu o dan reoliadau o dan adran 47 neu 48 o Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025, mae awdurdod pwysau a mesurau lleol yn awdurdod gorfodi ychwanegol mewn perthynas â’r ardal y mae’n awdurdod pwysau a mesurau ar ei chyfer.

(4)

At ddibenion yr adran hon,

  • F2ystyr “awdurdod trwyddedu” yw person sydd wedi ei ddynodi’n awdurdod trwyddedu o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

  • F3mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol” yr ystyr a roddir i “local weights and measures authority” gan adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.

(5)

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ardal awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at yr ardal y mae’n awdurdod gorfodi ar ei chyfer, neu’r ardaloedd y mae’n awdurdod gorfodi ar eu cyfer, yn ôl y digwydd.