RHAN 4GORFODAETH
Hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu
14Dyletswydd awdurdod tai lleol i hysbysu awdurdod trwyddedu am euogfarn
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).
(2)
Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.
(3)
Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.