12Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â hysbysiad o dan adran 10LL+C
(1)Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—
(a)yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(2)Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—
(a)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a
(b)yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.
(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 4 applied (ynghyd â modifications) (1.9.2019) by Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 12 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)