ATODLEN 1Taliadau a Ganiateir
1Rhent
1
Mae taliad rhent o dan gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.
2
Ond, yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, os yw swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol (“C1”) yn fwy na swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol arall (“C2”), mae’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 yn daliad gwaharddedig.
3
Pan fo mwy nag un cyfnod perthnasol heblaw C1, C2 yw pa un bynnag o’r cyfnodau perthnasol eraill hynny y mae’r swm isaf o rent yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.
4
Mewn achos pan fo hyd un cyfnod perthnasol (C1) yn wahanol i hyd un arall (C2), er mwyn pennu—
a
pa un a yw taliad gwaharddedig wedi ei wneud yn rhinwedd is-baragraff (2), a
b
os felly, swm y taliad gwaharddedig,
mae’r camau a ganlyn i’w cymryd.
Cam 1
Ar gyfer C1 ac C2 ill dau, mae cyfradd ddyddiol berthnasol (“CDdB”) y rhent i’w chyfrifo (ac yn achos swm nad yw’n rif cyfan mewn ceiniogau, yna wedi ei dalgrynnu i fyny i’r geiniog agosaf) drwy rannu cyfanswm y rhent ar gyfer y cyfnod â nifer y dyddiau yn y cyfnod.
Cam 2
Os nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng CDdB pob cyfnod, nid oes unrhyw daliad gwaharddedig.
Cam 3
Ond os yw’r CDdB ar gyfer C1 yn wahanol i honno ar gyfer C2, pennu pa un o’r cyfraddau yw’r isaf (y “CDdB is”) a pha un yw’r uchaf (y “CDdB uwch”).
Cam 4
Ar gyfer pa bynnag gyfnod y mae’r CDdB uwch yn daladwy, cyfrifo swm y rhent a fyddai wedi bod yn daladwy ar ei gyfer pe byddai rhent wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw ar y CDdB is.
Cam 5
Cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng swm y rhent a gyfrifwyd o dan Gam 4, a swm y rhent sy’n daladwy mewn gwirionedd mewn cysylltiad â’r cyfnod y mae’r CDdB uwch yn daladwy.
Mae’r swm canlyniadol yn daliad gwaharddedig yn rhinwedd is-baragraff (2).
5
Pan fo—
a
rhent yn daladwy yn fisol mewn cysylltiad ag C1 ac C2, neu pan fo C1 ac C2 ill dau yn gyfnodau a gyfrifir drwy gyfeirio at yr un nifer o fisoedd calendr, a
b
swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 ac C2 yr un fath,
mae C1 ac C2 i’w trin at ddibenion Cam 2 yn is-baragraff (4) fel pe bai ganddynt yr un CDdB.
6
Rhaid diystyru unrhyw wahaniaeth rhwng y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 a chyfnod perthnasol arall i’r graddau y mae’n deillio o amrywiad a ganiateir i’r rhent.
7
Yn is-baragraff (6), ystyr “amrywiad a ganiateir”, mewn perthynas â rhent sy’n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol, yw amrywiad a wneir—
a
drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract;
b
yn unol â theler yn y contract sy’n darparu ar gyfer amrywio’r rhent o dan y contract;
c
gan ddeddfiad neu o ganlyniad i ddeddfiad.
8
Yn y paragraff hwn—
a
ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) a gynhwysir yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—
i
Deddf Seneddol,
ii
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a
b
ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol, yw unrhyw gyfnod y mae rhent i’w dalu mewn cysylltiad ag ef.
2Blaendal sicrwydd
1
Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.
2
Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—
a
cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu
b
rhyddhau unrhyw atebolrwydd,
sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.
3
Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.
4
Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.
Blaendal cadw
3
Mae taliad blaendal cadw yn daliad a ganiateir.
4
Blaendal cadw yw swm—
a
a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol;
b
a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract;
c
nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.
5
Pan fo swm sy’n ofynnol gan honni cydymffurfio â’r paragraff hwn yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig, ac mae’r gweddill i’w drin yn unol ag Atodlen 2.
6Taliad yn achos diffygdaliad
1
Mae taliad y mae’n ofynnol ei wneud yn achos diffygdaliad gan ddeiliad y contract, o dan gontract meddiannaeth safonol, yn daliad a ganiateir, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “diffygdaliad” yw—
a
methiant gan ddeiliad y contract i wneud taliad i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus, neu
b
toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract.
3
Yn achos diffygdaliad y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, os yw swm y taliad sy’n ofynnol yn achos y diffygdaliad yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.
4
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—
a
methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus;
b
unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad a bennir gan reoliadau.
5
Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.
7Taliad mewn cysylltiad â’r dreth gyngor
1
Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r dreth gyngor yn daliad a ganiateir os yw deiliad y contract yn atebol am wneud y taliad yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6, 8 neu 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (c. 14).
2
Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr un ystyr ag a roddir i “billing authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).
8Taliad mewn cysylltiad â darparu cyfleustodau
1
Mae taliad ar gyfer darparu cyfleustod, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—
a
os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
b
os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
2
Mae taliad tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni o dan gynllun y fargen werdd (o fewn yr ystyr a roddir i “green deal plan” gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2011 (p.16)) yn daliad a ganiateir—
a
os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
b
os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
3
Yn y Ddeddf hon ystyr “cyfleustod” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
a
trydan, nwy neu danwydd arall;
b
dŵr neu garthffosiaeth.
9Taliad mewn cysylltiad â thrwydded deledu
1
Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mewn cysylltiad â thrwydded deledu yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol gan y contract i ddeiliad y contract wneud y taliad.
2
Yn y paragraff hwn ystyr “trwydded deledu” yw trwydded at ddibenion adran 363 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (c. 21).
10Taliad mewn cysylltiad â gwasanaeth cyfathrebu
1
Mae taliad ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—
a
os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
b
os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasanaeth cyfathrebu” yw gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un neu ragor o’r canlynol i gael ei ddefnyddio neu eu defnyddio—
a
ffôn ac eithrio ffôn symudol;
b
y rhyngrwyd;
c
teledu cebl;
d
teledu lloeren.
11Newid ystyr “amrywiad a ganiateir” ym mharagraff 1
Os yw rheoliadau a wneir o dan adran 7 yn diwygio’r Atodlen hon er mwyn newid ystyr “amrywiad a ganiateir” at ddibenion paragraff 1, cânt hefyd wneud diwygiadau canlyniadol i Bennod 3 o Ran 6 a Phennod 3 o Ran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (amrywio contractau meddiannaeth safonol).
ATODLEN 2Ymdrin â Blaendal Cadw
1Cymhwyso
1
Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan delir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.
2
Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at ddeiliad contract, mewn perthynas â blaendal cadw, yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl i gael y cynnig cyntaf wedi ei gadw gan y blaendal cadw.
2Ystyr “terfyn amser ar gyfer cytundeb”
1
Yn yr Atodlen hon, ystyr y “terfyn amser ar gyfer cytundeb” yw pymthegfed diwrnod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y telir y blaendal cadw.
2
Ond caiff y partïon gytuno yn ysgrifenedig i ddiwrnod gwahanol fod y terfyn amser ar gyfer cytundeb.
3
Caiff rheoliadau ddiwygio is-baragraff (1) i newid y terfyn amser ar gyfer cytundeb.
Gofyniad i ad-dalu blaendal cadw
3
Yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, rhaid i’r person a gafodd y blaendal cadw ei ad-dalu—
a
os yw’r partïon yn ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, neu
b
os yw’r partïon yn methu ag ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.
4
Rhaid ad-dalu’r blaendal o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ag—
a
pan fo paragraff 3(a) yn gymwys, y diwrnod y gwneir y contract, neu
b
pan fo paragraff 3(b) yn gymwys, y terfyn amser ar gyfer cytundeb.
Eithriadau
5
Nid yw paragraff 3(a) yn gymwys i’r graddau y cymhwysir swm y blaendal—
a
tuag at y taliad rhent cyntaf o dan y contract, neu
b
tuag at dalu blaendal sicrwydd o dan y contract.
6
Os cymhwysir y blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, yn unol â pharagraff 5(b), caiff y swm a gymhwysir ei drin at ddibenion adran 45 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) fel pe bai wedi ei dalu ar y dyddiad y gwneir y contract.
7
Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ac—
a
bod hawl resymol gan y landlord i ystyried y gwahaniaeth rhwng yr wybodaeth a ddarparwyd gan ddeiliad y contract a’r wybodaeth gywir wrth benderfynu pa un ai i roi contract i ddeiliad y contract, neu
b
bod hawl resymol gan y landlord i ystyried gweithred deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth benderfynu pa un ai i roi contract o’r fath.
8
Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn hysbysu’r landlord neu’r asiant gosod eiddo cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb bod deiliad y contract wedi penderfynu peidio ag ymrwymo i gontract.
9
Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i landlord—
a
os yw’r landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, ond
b
bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.
10
Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i asiant gosod eiddo—
a
os yw’r asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, a
b
bod y landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw, ond
c
bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.
11Darpariaeth atodol ynghylch eithriadau ym mharagraffau 8 i 10
1
Ni ellir dibynnu ar yr eithriadau a bennir ym mharagraffau 8, 9 a 10 oni fodlonir yr amod yn is-baragraff (2).
2
Yr amod yw, cyn talu’r blaendal cadw, fod deiliad y contract wedi cael yr wybodaeth sydd o fewn is-baragraff (3) oddi wrth naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo (os yw asiant o’r fath wedi ei gyfarwyddo gan y landlord mewn perthynas â’r contract).
3
Mae gwybodaeth sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn wybodaeth a bennir mewn rheoliadau, neu’n wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
4
Nid yw gwybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu i ddeiliad y contract, at ddibenion is-baragraff (1), oni bai ei bod wedi ei darparu ym mha ffordd bynnag (os oes un) a bennir yn y rheoliadau.
5
Mewn achos pan fo landlord wedi cyfarwyddo asiant gosod eiddo mewn perthynas â chontract, ni chaniateir dibynnu ar yr eithriad ym mharagraff 9, yn ogystal, oni bai bod yr asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.
ATODLEN 3Diwygiadau i ddeddf rhentu cartrefi (cymru) 2016
1
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Cyfyngiad ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant: contractau safonol cyfnodol
2
Ar ôl adran 177 (cyfyngiad ar landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn rhoi hysbysiad ar gyfer meddiant: torri gofynion sicrwydd a blaendal), mewnosoder—
177ACyfyngiadau ar adran 173: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 ar adeg pan fo—
a
y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,
b
o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac
c
y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 ar adeg pan fo—
a
blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
b
yr amgylchiadau yn golygu bod y methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
3
Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
a
taliad rhent o dan y contract;
b
taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.
3
Yn adran 126 (y weithdrefn hysbysu ar gyfer amrywio, o dan adran 125, gontract meddiannaeth gan y landlord), yn is-adran (2), yn lle “neu adran 177 (torri gofynion sicrwydd a blaendal)” rhodder “, adran 177 (torri gofynion sicrwydd a blaendal) neu adran 177A (taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw)”.
4Cyfyngiadau ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol
1
Ar ôl adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), mewnosoder—
186ACyfyngiadau ar adran 186: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth
1
Os nad yw’r landlord yn cydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) (dyletswydd i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract), ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 cyn diwedd y cyfnod cyfyngedig.
2
Y cyfnod cyfyngedig yw chwe mis sy’n cychwyn â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
3
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 186 ar unrhyw adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract.
186BCyfyngiadau ar adran 186: torri gofynion sicrwydd a blaendal
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5) yn gymwys oni bai—
a
bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu
b
bod cais i ’r l lys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.
3
Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.
4
Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).
5
Nid yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract; ac mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
186CCyfyngiadau ar adran 186: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo—
a
y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,
b
o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac
c
y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo—
a
blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
b
yr amgylchiadau yn golygu bod methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
3
Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
a
taliad rhent o dan y contract;
b
taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract.
2
Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (m), mewnosoder—
ma
adran 186B (torri gofynion blaendal: cyfyngiad ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol),
3
Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i), mewnosoder—
ia
adran 186B (torri gofynion blaendal: cyfyngiad ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol),
4
Yn lle adran 183(2) (perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol), rhodder—
2
Mae adrannau 179 a 180 yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan adran 186(1), ac i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath, fel y maent yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan adran 173, ac i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad a roddir o dan adran 173.
5Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contractau safonol cyfnod penodol
Ar ôl adran 198 (cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: gofynion sicrwydd a blaendal), mewnosoder—
198ACyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan fo—
a
y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,
b
o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac
c
y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan fo—
a
blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
b
yr amgylchiadau yn golygu bod y methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
3
Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
a
taliad rhent o dan y contract;
b
taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
6Cyfyngiadau ar lys yn gwrando hawliad meddiant gan landlord
Yn adran 204 (cyfyngiadau ar lys yn gwrando hawliadau meddiant gan landlord)—
a
yn is-adran (1)(a)(vii), ar ôl “177” mewnosoder “, 177A”;
b
yn is-adran (1)(a)(ix), yn lle “adran 186 (cyfyngiad”, rhodder “, adrannau 186, 186A, 186B a 186C (cyfyngiadau”;
c
yn is-adran (1)(a)(xiii), ar ôl “198” mewnosoder “, 198A”.
7Darpariaeth ganlyniadol amrywiol
Yn Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth)—
a
yn Rhan 2 (contractau safonol cyfnodol), yn nhabl 4, yn nodiadau’r cofnod ar gyfer adrannau 173 i 180 (terfynu drwy hysbysiad a roddir gan landlord)—
i
yn lle “a 176” rhodder “, 176, 177 a 177A”;
ii
yn lle “adran 176” rhodder “adran 177”;
b
yn Rhan 3 (contractau safonol cyfnod penodol), yn nhabl 5—
i
yng ngholofn gyntaf y cofnod ar gyfer adran 186, yn lle “Adran 186”, rhodder “Adrannau 186, 186A, 186B a 186C”;
ii
yn nodiadau’r cofnod ar gyfer adran 186, ar y diwedd, mewnosoder “Os nad yw adran 186(1) wedi ei hymgorffori, nid yw adrannau 186A, 186B a 186C yn gymwys. Os yw contract yn ymgorffori adran 186(1), rhaid ymgorffori adrannau 186A, 186B a 186C, a rhaid ymgorffori adran 186B heb ei haddasu.”;
iii
yn nodiadau’r cofnod ar gyfer adrannau 195 i 201 (terfynu drwy hysbysiad a roddir gan landlord o dan gymal terfynu’r landlord), yn lle “adran 196 (torri’r rheolau blaendal)” rhodder “adran 198 (torri gofynion sicrwydd a blaendal)”.