Blaendal sicrwyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
2(1)Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—
(a)cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu
(b)rhyddhau unrhyw atebolrwydd,
sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.
(3)Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.
(4)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)