ATODLEN 1Taliadau a Ganiateir

I1I22Blaendal sicrwydd

1

Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.

2

Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—

a

cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu

b

rhyddhau unrhyw atebolrwydd,

sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.

3

Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

4

Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.