xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1Taliadau a Ganiateir

Rhent

1(1)Mae taliad rhent o dan gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.

(2)Ond, yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, os yw swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol (“C1”) yn fwy na swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol arall (“C2”), mae’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 yn daliad gwaharddedig.

(3)Pan fo mwy nag un cyfnod perthnasol heblaw C1, C2 yw pa un bynnag o’r cyfnodau perthnasol eraill hynny y mae’r swm isaf o rent yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.

(4)Mewn achos pan fo hyd un cyfnod perthnasol (C1) yn wahanol i hyd un arall (C2), er mwyn pennu—

(a)pa un a yw taliad gwaharddedig wedi ei wneud yn rhinwedd is-baragraff (2), a

(b)os felly, swm y taliad gwaharddedig,

mae’r camau a ganlyn i’w cymryd.

(5)Pan fo—

(a)rhent yn daladwy yn fisol mewn cysylltiad ag C1 ac C2, neu pan fo C1 ac C2 ill dau yn gyfnodau a gyfrifir drwy gyfeirio at yr un nifer o fisoedd calendr, a

(b)swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 ac C2 yr un fath,

mae C1 ac C2 i’w trin at ddibenion Cam 2 yn is-baragraff (4) fel pe bai ganddynt yr un CDdB.

(6)Rhaid diystyru unrhyw wahaniaeth rhwng y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 a chyfnod perthnasol arall i’r graddau y mae’n deillio o amrywiad a ganiateir i’r rhent.

(7)Yn is-baragraff (6), ystyr “amrywiad a ganiateir”, mewn perthynas â rhent sy’n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol, yw amrywiad a wneir—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract;

(b)yn unol â theler yn y contract sy’n darparu ar gyfer amrywio’r rhent o dan y contract;

(c)gan ddeddfiad neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(8)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) a gynhwysir yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(i)Deddf Seneddol,

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol, yw unrhyw gyfnod y mae rhent i’w dalu mewn cysylltiad ag ef.

Blaendal sicrwydd

2(1)Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—

(a)cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu

(b)rhyddhau unrhyw atebolrwydd,

sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.

(3)Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Blaendal cadw

3Mae taliad blaendal cadw yn daliad a ganiateir.

4Blaendal cadw yw swm—

(a)a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol;

(b)a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract;

(c)nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.

5Pan fo swm sy’n ofynnol gan honni cydymffurfio â’r paragraff hwn yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig, ac mae’r gweddill i’w drin yn unol ag Atodlen 2.

Taliad yn achos diffygdaliad

6(1)Mae taliad y mae’n ofynnol ei wneud yn achos diffygdaliad gan ddeiliad y contract, o dan gontract meddiannaeth safonol, yn daliad a ganiateir, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “diffygdaliad” yw—

(a)methiant gan ddeiliad y contract i wneud taliad i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus, neu

(b)toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract.

(3)Yn achos diffygdaliad y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, os yw swm y taliad sy’n ofynnol yn achos y diffygdaliad yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus;

(b)unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad a bennir gan reoliadau.

(5)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Taliad mewn cysylltiad â’r dreth gyngor

7(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r dreth gyngor yn daliad a ganiateir os yw deiliad y contract yn atebol am wneud y taliad yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6, 8 neu 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (c. 14).

(2)Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr un ystyr ag a roddir i “billing authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

Taliad mewn cysylltiad â darparu cyfleustodau

8(1)Mae taliad ar gyfer darparu cyfleustod, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Mae taliad tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni o dan gynllun y fargen werdd (o fewn yr ystyr a roddir i “green deal plan” gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2011 (p.16)) yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cyfleustod” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)trydan, nwy neu danwydd arall;

(b)dŵr neu garthffosiaeth.

Taliad mewn cysylltiad â thrwydded deledu

9(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mewn cysylltiad â thrwydded deledu yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol gan y contract i ddeiliad y contract wneud y taliad.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “trwydded deledu” yw trwydded at ddibenion adran 363 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (c. 21).

Taliad mewn cysylltiad â gwasanaeth cyfathrebu

10(1)Mae taliad ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasanaeth cyfathrebu” yw gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un neu ragor o’r canlynol i gael ei ddefnyddio neu eu defnyddio—

(a)ffôn ac eithrio ffôn symudol;

(b)y rhyngrwyd;

(c)teledu cebl;

(d)teledu lloeren.

Newid ystyr “amrywiad a ganiateir” ym mharagraff 1

11Os yw rheoliadau a wneir o dan adran 7 yn diwygio’r Atodlen hon er mwyn newid ystyr “amrywiad a ganiateir” at ddibenion paragraff 1, cânt hefyd wneud diwygiadau canlyniadol i Bennod 3 o Ran 6 a Phennod 3 o Ran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (amrywio contractau meddiannaeth safonol).