C1RHAN 7DARPARIAETHAU TERFYNOL

Annotations:

I1I10C124C1Gofyniad i awdurdod tai lleol hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith y Ddeddf

1

Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i wybodaeth fod ar gael yn gyhoeddus yn ei ardal, ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod yn meddwl sy’n briodol, am effaith y Ddeddf hon, gan gynnwys sut y gellir adennill taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw.

2

Wrth wneud trefniadau at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

I2I11C125C1Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thenantiaethau sicr

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth er mwyn i’r Ddeddf hon fod yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a bennir gan y rheoliadau, mewn perthynas â thenantiaeth sicr ar gyfer annedd.

2

At ddibenion is-adran (1), mae i “tenantiaeth sicr” yr un ystyr ag “assured tenancy” yn Neddf Tai 1988 (c. 50) (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliadol sicr).

I3I12C126C1Troseddau gan gyrff corfforaethol

1

Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

a

uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu

b

person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

2

Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.

3

Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.

I4I13C127C1Rheoliadau

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

2

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

3

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 7, adran 13 neu baragraffau 2 neu 6 o Atodlen 1 (pa un a yw’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon ai peidio) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

4

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

I5I14C128C1Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “annedd” (“dwelling”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (y cyfeirir ati yn yr adran hon fel “Deddf 2016”);

  • ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • mae i “blaendal cadw” (“holding deposit”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 1;

  • mae i “blaendal sicrwydd” (“security deposit”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 1;

  • ystyr “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yw contract sy’n gontract safonol at ddibenion Deddf 2016;

  • mae i “deiliad contract” (“contract-holder”) yr un ystyr ag yn Neddf 2016;

  • mae i “landlord” (“landlord”) yr un ystyr ag yn Neddf 2016; ac os oes dau neu ragor o bersonau yn landlord ar y cyd, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at bob un o’r personau hynny;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “taliad gwaharddedig” (“prohibited payment”) yr ystyr a roddir yn adran 4.

I6I9C129C1Cymhwyso i’r Goron

1

Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.

2

Nid yw unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon yn gwneud y Goron yn atebol yn droseddol, ond caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred ar ran y Goron sy’n gyfystyr â thoriad o’r fath yn anghyfreithlon.

I730C1Dod i rym

1

Mae’r adran hon ac adran 31 yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

2

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

3

Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

a

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 30 mewn grym ar 16.5.2019, gweler a. 30(1)

I831C1Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.