xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4GORFODAETH

Hysbysiadau cosb benodedig

13Hysbysiadau cosb benodedig

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu 3 yn ardal yr awdurdod, caiff y swyddog roi hysbysiad cosb benodedig i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2)Hysbysiad cosb benodedig, at ddibenion is-adran (1), yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson ryddhau unrhyw atebolrwydd i gael euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb o £1000.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

(4)Mae hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei roi o dan adran 29 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) at ddibenion is-adrannau (2), (3) a (6) i (8) o’r adran honno (darpariaeth ynghylch sut y rhoddir hysbysiadau cosb benodedig) ac at y diben hwn mae’r cyfeiriad at “yr awdurdod trwyddedu” yn is-adran (8)(a) o’r adran honno i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr awdurdod gorfodi o dan sylw.

(5)Ni chaniateir i dderbyniadau cosb benodedig a geir gan awdurdod gorfodi yn rhinwedd yr adran hon gael eu defnyddio heblaw at ddiben swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon.