Crynodeb O’R Ddeddf

2.Mae’r Ddeddf yn gwahardd landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo rhag gosod gofynion penodol mewn perthynas â chontractau meddiannaeth safonol neu yn unol ag un o delerau contract. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch blaendaliadau cadw ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd penodol a godir gan asiantiaid gosod eiddo.