Darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth

4Darparu gwybodaeth gan drydydd partïon

(1)

Caiff y rheoliadau ganiatáu i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Comisiynwyr, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(2)

Caiff y rheoliadau hefyd ganiatáu i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(3)

Caiff y rheoliadau ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i awdurdod lleol, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(4)

Ystyr “gwybodaeth gymhwysol” yw gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau; ond ni chaiff gwybodaeth na disgrifiad o wybodaeth gael ei phennu neu ei bennu felly ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddibenion penderfyniadau o ran cymhwystra i gael cyllid o dan adran 1.

(5)

Ni chaniateir gwneud darpariaeth yn y rheoliadau ar gyfer datgelu gwybodaeth a gedwir gan—

(a)

Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

(b)

un o Weinidogion y Goron;

(c)

adran o’r llywodraeth;

(d)

person sy’n darparu gwasanaethau i berson a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), neu (c),

ond os yw’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â’r ddarpariaeth.

(6)

Y Gweinidog priodol yw—

(a)

mewn perthynas â Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Trysorlys;

(b)

mewn perthynas ag un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, yr Ysgrifennydd Gwladol.