xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth

3Gofyniad i rieni etc. ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau neu wybodaeth a bennir yn y rheoliadau, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(2)Ond ni chaniateir i ofyniad gael ei osod ar berson yn rhinwedd yr adran hon oni bai bod y person wedi gwneud, neu ei fod yn gwneud, ddatganiad o dan adran 1(3)(d).

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i gosb gael ei gosod ar berson sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(5)Ond nid yw person yn agored i gosb yn rhinwedd yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd mewn perthynas ag ef.

(6)Uchafswm unrhyw gosb y caniateir iddi gael ei phennu neu ei phenderfynu yn unol â’r rheoliadau yn rhinwedd is-adran (3) yw £3,000.