Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Cyllido gofal plant ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio

7.Mae adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid gofal plant ar gyfer plant cymhwysol rhieni sy’n gweithio. Mae adran 1(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau faint o ofal plant sydd i’w sicrhau yn unol â’r cyllid a ddarperir o dan adran 1(1). Mae adran 1(3) yn pennu gofynion sylfaenol penodol y mae rhaid i blentyn eu bodloni er mwyn cael gofal plant a gyllidir (gan gynnwys y gofynion bod y plentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol, yn blentyn rhieni sy’n gweithio, ac yn blentyn sydd yng Nghymru). Mae hefyd yn caniatáu i Weindogion Cymru osod gofynion eraill mewn rheoliadau. Caiff y gofynion hyn (is-adran (5)) ymwneud â rhiant i’r plentyn.

8.Bydd rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon yn ymhelaethu ar y gofynion hyn, er enghraifft drwy bennu pryd y mae person i’w drin fel pe bai’n gwneud gwaith am dâl, pryd y mae plentyn i’w drin fel pe bai yng Nghymru, a phryd y mae person i’w drin fel pe bai’n bartner i berson arall. Er enghraifft, caiff y rheoliadau bennu y bydd person sy’n absennol dros dro o’r gweithle o dan amgylchiadau penodol, megis cymryd absenoldeb rhiant, yn cael ei ystyried fel pe bai yn y gwaith at ddibenion penderfynu ar gymhwystra i gael cyllid.

Adran 2 – Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gweinyddu etc. cyllid

9.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu’r cynllun cyllido a sefydlir yn rhinwedd adran 1. Caiff y rheoliadau hyn gynnwys, er enghraifft, fanylion am sut y gall rhiant plentyn cymwys, neu bartner i riant plentyn cymwys, wneud cais am y cyllid, a sut yr ymgymerir â gwiriadau cymhwystra. Mae adrannau 3 i 7 o’r Ddeddf yn cynnwys rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r math o ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.

Adran 3 – Gofyniad i rieni etc. ddarparu gwybodaeth

10.Effaith yr adran hon yw y gall fod yn ofynnol i unrhyw un sy’n hawlio cyllid ar hyn o bryd, neu sy’n ei hawlio am y tro cyntaf, ac felly sy’n gorfod gwneud datganiad o dan adran 1 neu sy’n gwneud datganiad o dan yr adran honno, ddarparu gwybodaeth a dogfennau a bennir yn y rheoliadau, naill ai i Weinidogion Cymru neu i rywun (er enghraifft, gweinyddydd y cynllun) sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

11.Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth i berson sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol fod yn agored i gosb ariannol. Ystyr “anwir neu gamarweiniol” yn y cyd-destun hwn yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol. Mae hyn yn golygu, yn ymarferol, na fyddai person yn agored i gosb ond os oedd yr wybodaeth anwir neu gamarweiniol a ddarparwyd wedi cael effaith ar ba un a fyddai person yn gymwys i gael y cynnig ai peidio, megis manylion am ei enillion, oedran y plentyn etc. Mae adran 3(5) yn ymdrin â’r cydberthynas rhwng cosb o dan yr adran hon, ac achos am drosedd, er enghraifft cael mantais ariannol drwy ddichell. Mae’n darparu na chaiff person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd fod yn agored hefyd i gosb mewn cysylltiad â’r un amgylchiadau.

12.Mae adran 3(6) yn darparu mai uchafswm unrhyw gosb ariannol y caniateir iddi gael ei chodi mewn rheoliadau a wneir o dan adran 2 yw £3,000. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ddiwygio’r uchafswm hwn mewn rheoliadau (gweler adran 11 o’r Ddeddf).

Adran 4 – Darparu gwybodaeth gan drydydd partïon

13.Mae adran 4 o’r Ddeddf yn pennu y caiff y rheoliadau (y caniateir iddynt gael eu gwneud o dan adran 2) wneud darpariaeth i bersonau penodol a bennir yn yr adran (gweler isod) ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau iddynt. Rhaid i’r wybodaeth o dan sylw gael ei phennu neu ei disgrifio yn y rheoliadau, ac ni chaniateir ymdrin â’r wybodaeth yn y ffordd hon ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ar gyfer penderfynu ar gymhwystra i gael cyllid o dan adran 1 o’r Ddeddf.

14.Caiff y rheoliadau ganiatáu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron (neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i unrhyw un neu ragor ohonynt) ddarparu i Weinidogion Cymru (neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru) unrhyw wybodaeth o’r math hwn. Serch hynny, bydd hyn yn ddarostyngedig i’r “Gweinidog priodol” gydsynio i hyn: mae ystyr “Gweinidog priodol” wedi ei nodi yn adran 4(6).

15.Caiff y rheoliadau naill ai ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i awdurdod lleol, ddarparu gwybodaeth o’r math hwn i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau iddynt. (Mewn geiriau eraill, yn y cyd-destun hwn, ond nid yn y cyd-destun hwnnw a ddisgrifir ym mharagraff 15, caniateir gosod gofyniad i ddarparu gwybodaeth).

Adran 5 – Datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4

16.Mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi cael ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4. Mae adran 5(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Gweinidog priodol roi cydsyniad i unrhyw reoliadau sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch datgelu ymlaen wybodaeth a ddarperir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, un o Weinidogion y Goron, adran o’r llywodraeth neu berson sy’n darparu gwasanaethau i unrhyw un neu ragor o’r personau hyn. Mae i “Gweinidog priodol” yr un ystyr yn yr adran hon ag yn adran 4, sef y Trysorlys mewn perthynas â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer adran o’r llywodraeth neu un o Weinidogion y Goron.

17.Mae adran 5(4) yn galluogi i unrhyw reoliadau sy’n ymwneud â datgelu ymlaen wybodaeth wneud darpariaeth ar gyfer troseddau mewn cysylltiad â datgelu ymlaen heb awdurdod wybodaeth sydd wedi cael ei rhannu at ddibenion gwneud penderfyniad am gymhwystra person i gael gofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth.

18.Yn unol ag adran 5(5), ni all uchafswm y gosb y caniateir iddi fod yn gysylltiedig ag unrhyw drosedd sydd wedi ei chreu yn rhinwedd yr adran hon fod yn hwy na dedfryd o garchar am 2 flynedd (pa un a yw’n dod gyda dirwy ai peidio).

Adran 6 – Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

19.Mae adran 6 o’r Ddeddf yn pennu y caiff rheoliadau y caniateir iddynt gael eu gwneud o dan adran 2 wneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n digwydd pan fo person am herio penderfyniad am ei gymhwystra i gael cyllid. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o benderfyniadau ac ar gyfer apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Os yw rheoliadau yn cael eu gwneud o dan adran 2 o’r Ddeddf sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gosod cosbau ariannol (yn rhinwedd adran 3) yna mae adran 6(2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hefyd wneud darpariaeth er mwyn galluogi person i herio gosod y gosb ariannol neu ei swm.

Adran 7 – Pŵer i roi swyddogaethau i Awdurdodau Lleol

20.Mae adran 7 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth yn y rheoliadau y caniateir iddynt gael eu gwneud o dan adran 2 i roi pwerau neu i osod rhwymedigaethau ar Awdurdodau Lleol mewn cysylltiad â chyllid o dan adran 1. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru i gefnogi gweinyddu a gweithredu’r cynllun cyllido.

Adran 8 – Dyletswydd i lunio a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf hon

21.Mae adran 8 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf ac ar weithredu unrhyw drefniadau a wneir at ddibenion adran 1 o’r Ddeddf. Rhaid i’r adroddiad gael ei lunio a’i gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 1 i rym.

Adran 9 – Diwygiad canlyniadol i Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005

22.Mae adran 9 o’r Ddeddf yn cynnwys diwygiad i adran 18 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (“Deddf 2005”) sy’n gwneud darpariaeth ynghylch dyletswydd cyfrinachedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae adran 18 o Ddeddf 2005 yn nodi’r cod cyfrinachedd ar gyfer Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’i swyddogion mewn perthynas â’r wybodaeth a gedwir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac yn pennu’r amgylchiadau pan all datgeliadau gael eu gwneud.

23.Bydd y diwygiad i Ddeddf 2005 yn mewnosod paragraff newydd yn adran 18(2) o’r Ddeddf honno a fydd yn galluogi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i ddatgelu gwybodaeth sy’n ofynnol at ddibenion unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon i Weinidogion Cymru (neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru).

24.Mae Deddf 2005 yn ffurfio rhan o’r gyfraith yn nhair awdurdodaeth gyfreithiol y Deyrnas Unedig: sef Cymru a Lloegr; yr Alban; a Gogledd Iwerddon (gweler adran 56 o Ddeddf 2005 am y ddarpariaeth sy’n pennu rhychwant y Ddeddf ledled y DU).

25.Mae adran 108A(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n nodi’r rheolau sy’n llywodraethu terfynau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, yn cyfyngu ar rychwant Deddfau’r Cynulliad, gan gynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth arall a wneir gan y Ddeddfau hynny, i awdurdodaeth Cymru a Lloegr.

26.Mae hyn yn golygu y bydd gan y diwygiad i adran 18 o Ddeddf 2005 rychwant mwy cyfyngedig na’r darpariaethau hynny yn Neddf 2005 sy’n rhychwantu’r DU gyfan. Felly bydd adran 18 o Ddeddf 2005, i’r graddau y mae’n rhychwantu awdurdodaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon, yn bodoli heb y diwygiad a gynhwysir yn adran 9 o’r Ddeddf. Ond bydd y diwygiad yn cael effaith at ddibenion awdurdodaeth Cymru a Lloegr.

Adran 11 – Pŵer i newid swm y gosb ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol

27.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n amrywio uchafswm y gosb o £3,000 a bennir yn adran 3(6) (cosb am ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol) drwy wneud diwygiad i’r adran honno.

Adran 12 – Darpariaeth atodol ynghylch rheoliadau o dan y Ddeddf hon

28.Mae’r adran hon yn esbonio bod pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf i’w harfer drwy offeryn statudol (sy’n golygu bod gofynion gweithdrefnol penodol a gofynion eraill a gynhwysir yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf) ac yn pennu y bydd y weithdrefn gadarnhaol yn gymwys i bob defnydd o’r pwerau i wneud rheoliadau. Mae hyn yn golygu bod unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ddatganedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

29.Mae adran 12 hefyd yn ei gwneud yn glir y caiff unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf roi disgresiwn i unrhyw berson. Mae angen y pŵer i roi disgresiwn er mwyn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru o ran y trefniadau gweithredol sydd i’w gwneud ar gyfer gweinyddu unrhyw gyllid a ddarperir yn unol ag adran 1, er enghraifft, wrth wneud penderfyniad o ran pa un ai i osod cosb am ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol a ddarperir gan berson mewn cysylltiad â’i gais am gyllid. Rhaid i berson sy’n arfer disgresiwn o dan amgylchiadau o’r fath arfer barn resymol er mwyn penderfynu pa un ai i osod cosb ai peidio ac, os gosodir cosb, swm y gosb honno.

30.Caiff unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hefyd wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a gwneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

Adran 13 – Dod i rym

31.Mae adran 13(1) yn nodi darpariaethau’r Ddeddf a fydd yn dod i rym un diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.

32.Bydd unrhyw adrannau o’r Ddeddf nas crybwyllir yn is-adran (1) yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir mewn gorchymyn (neu orchmynion) cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol ag is-adran (2). Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i bennu dyddiadau cychwyn gwahanol a chânt gychwyn darpariaethau at ddibenion gwahanol neu mewn perthynas ag ardaloedd penodedig.

Adran 14 – Enw byr

33.Mae’r adran hon yn datgan mai enw byr y Ddeddf hon fydd Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019.