Trosolwg O’R Ddeddf

4.Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyllido gofal plant ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio, cyhyd ag y bo’r plant a’r rhieni yn bodloni meini prawf cymhwystra penodol. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer sefydlu system ymgeisio a gwirio cymhwystra genedlaethol i’r cynllun cyllido gofal plant a bydd yn caniatáu i ddarpariaeth gael ei gwneud i alluogi rhannu data rhwng personau penodedig (er enghraifft, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac Adrannau eraill o Lywodraeth y DU) er mwyn hwyluso hyn.