Nodiadau Esboniadol i DEDDF CYLLIDO GOFAL PLANT (CYMRU) 2019 Nodiadau Esboniadol

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2018 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Ionawr 2018.

2.Fe’u lluniwyd gan Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.

3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf, ac os ymddengys nad oes angen rhoi unrhyw esboniad neu sylw ar adran unigol, nis rhoddir.

Back to top