Search Legislation

Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Legislation Crest

Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019

2019 dccc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cyllido gofal plant gan Weinidogion Cymru ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio; ac at ddibenion cysylltiedig.

[30 Ionawr 2019]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Darparu cyllid ar gyfer gofal plant

1Cyllido gofal plant ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid mewn cysylltiad â darparu gofal plant ar gyfer plant cymhwysol rhieni sy’n gweithio.

(2)Rhaid i reoliadau bennu faint o ofal plant sydd i’w sicrhau yn rhinwedd y cyllid a ddarperir o dan is-adran (1).

(3)Mae plentyn cymhwysol rhieni sy’n gweithio yn blentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol⁠—

(a)sydd yng Nghymru;

(b)sydd o oedran (neu o fewn ystod oedran) a bennir mewn rheoliadau;

(c)sy’n bodloni unrhyw amodau eraill a bennir mewn rheoliadau;

(d)y mae datganiad wedi cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, yn unol â rheoliadau, i’r perwyl bod gofynion paragraffau (a), (b) ac (c) wedi eu bodloni neu’n parhau i gael eu bodloni.

(4)Caiff amodau a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â phlentyn ymwneud (ymhlith pethau eraill) ag addysg gynradd (o fewn yr ystyr a roddir i “primary education” yn adran 2(1)(a) o Ddeddf Addysg 1996) a geir gan y plentyn neu a roddir ar gael iddo.

(5)Caiff amodau a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â phlentyn hefyd ymwneud â rhiant i’r plentyn, neu bartner i riant i’r plentyn, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) â gwaith am dâl a wneir gan riant neu bartner.

(6)Caiff darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(d) mewn cysylltiad â datganiad gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch pryd y mae datganiad i’w wneud, hyd datganiad, ac amodau sydd i’w bodloni gan berson sy’n gwneud datganiad.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth, at ddibenion yr adran hon, ynghylch—

(a)amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, plentyn i’w ystyried fel pe bai yng Nghymru;

(b)amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, person i’w ystyried yn bartner i berson arall;

(c)amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, person i’w drin fel pe bai’n gwneud gwaith am dâl.

(8)At ddibenion yr adran hon, mae “rhiant”, mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys—

(a)unrhyw unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p. 41)) dros y plentyn;

(b)unrhyw unigolyn a chanddo ofal am y plentyn.

(9)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chyllido gofal plant

2Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gweinyddu etc. cyllid

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch gweinyddu a gweithredu unrhyw drefniadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 1.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy’r rheoliadau yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth o fewn adrannau 3 i 7.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at “y rheoliadau” yn gyfeiriadau at reoliadau o dan yr adran hon.

Darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth

3Gofyniad i rieni etc. ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau neu wybodaeth a bennir yn y rheoliadau, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(2)Ond ni chaniateir i ofyniad gael ei osod ar berson yn rhinwedd yr adran hon oni bai bod y person wedi gwneud, neu ei fod yn gwneud, ddatganiad o dan adran 1(3)(d).

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i gosb gael ei gosod ar berson sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(5)Ond nid yw person yn agored i gosb yn rhinwedd yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd mewn perthynas ag ef.

(6)Uchafswm unrhyw gosb y caniateir iddi gael ei phennu neu ei phenderfynu yn unol â’r rheoliadau yn rhinwedd is-adran (3) yw £3,000.

4Darparu gwybodaeth gan drydydd partïon

(1)Caiff y rheoliadau ganiatáu i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Comisiynwyr, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y rheoliadau hefyd ganiatáu i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i awdurdod lleol, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(4)Ystyr “gwybodaeth gymhwysol” yw gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau; ond ni chaiff gwybodaeth na disgrifiad o wybodaeth gael ei phennu neu ei bennu felly ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddibenion penderfyniadau o ran cymhwystra i gael cyllid o dan adran 1.

(5)Ni chaniateir gwneud darpariaeth yn y rheoliadau ar gyfer datgelu gwybodaeth a gedwir gan—

(a)Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

(b)un o Weinidogion y Goron;

(c)adran o’r llywodraeth;

(d)person sy’n darparu gwasanaethau i berson a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), neu (c),

ond os yw’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â’r ddarpariaeth.

(6)Y Gweinidog priodol yw—

(a)mewn perthynas â Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Trysorlys;

(b)mewn perthynas ag un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, yr Ysgrifennydd Gwladol.

5Datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi cael ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4.

(2)Ond mae is-adran (3) yn gymwys yn achos gwybodaeth sydd wedi ei datgelu yn unol â darpariaeth y mae’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â hi o dan adran 4(5).

(3)Ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen yr wybodaeth ond os yw’r Gweinidog priodol (o fewn ystyr adran 4) wedi cydsynio â’r ddarpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen.

(4)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n creu troseddau mewn cysylltiad â datgelu ymlaen wybodaeth sy’n ymwneud â pherson penodol.

(5)Os yw’r rheoliadau yn creu trosedd mewn perthynas â datgelu ymlaen wybodaeth, ni chaiff darpariaeth a wneir ar gyfer unrhyw gosb o garchar ar euogfarn ar dditiad bennu cyfnod o garchar sy’n hwy na dwy flynedd (pa un a yw’n dod gyda dirwy ai peidio).

Darpariaeth ar gyfer adolygiadau ac apelau

6Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau o ran cymhwystra i gael cyllid o dan adran 1, neu ar gyfer apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniadau hynny.

(2)Pan fo darpariaeth wedi ei gwneud yn rhinwedd adran 3 ar gyfer gosod cosbau ariannol, rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n galluogi person y mae cosb ariannol wedi ei gosod arno—

(a)i’w gwneud yn ofynnol adolygu gosod y gosb neu ei swm;

(b)i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn gosod y gosb neu ei swm.

Darpariaeth ar gyfer swyddogaethau i’w harfer gan awdurdodau lleol

7Pŵer i roi swyddogaethau i awdurdodau lleol

(1)Caiff y rheoliadau roi pwerau i awdurdod lleol neu osod rhwymedigaethau arno mewn cysylltiad â chyllido o dan adran 1.

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth arfer pŵer neu wrth gydymffurfio â rhwymedigaeth, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliadau.

Dyletswydd i adrodd ar effaith y Ddeddf

8Dyletswydd i lunio a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf hon

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o bum mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf hon, ac ar weithredu unrhyw drefniadau a wneir at ddibenion adran 1.

(2)Y cyfnod o bum mlynedd, at ddibenion yr adran hon, yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 1 i rym.

Cyffredinol

9Diwygiad canlyniadol i Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005

Yn adran 18 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (dyletswydd cyfrinachedd), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)which is made to the Welsh Ministers, or to a person providing services to the Welsh Ministers,by virtue of regulations made under the Childcare Funding (Wales) Act 2019,.

10Ystyr “awdurdod lleol”

Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

11Pŵer i newid swm y gosb ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol

Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon roi swm gwahanol yn lle’r swm sydd wedi ei bennu am y tro yn adran 3(6).

12Darpariaeth atodol ynghylch rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac yn cynnwys pŵer i—

(a)rhoi disgresiwn i unrhyw berson,

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol, ac

(c)gwneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

13Dod i rym

(1)Daw’r adran hon ac adran 14 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dwyn darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

14Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources