xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darparu cyllid ar gyfer gofal plant

1Cyllido gofal plant ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid mewn cysylltiad â darparu gofal plant ar gyfer plant cymhwysol rhieni sy’n gweithio.

(2)Rhaid i reoliadau bennu faint o ofal plant sydd i’w sicrhau yn rhinwedd y cyllid a ddarperir o dan is-adran (1).

(3)Mae plentyn cymhwysol rhieni sy’n gweithio yn blentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol⁠—

(a)sydd yng Nghymru;

(b)sydd o oedran (neu o fewn ystod oedran) a bennir mewn rheoliadau;

(c)sy’n bodloni unrhyw amodau eraill a bennir mewn rheoliadau;

(d)y mae datganiad wedi cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, yn unol â rheoliadau, i’r perwyl bod gofynion paragraffau (a), (b) ac (c) wedi eu bodloni neu’n parhau i gael eu bodloni.

(4)Caiff amodau a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â phlentyn ymwneud (ymhlith pethau eraill) ag addysg gynradd (o fewn yr ystyr a roddir i “primary education” yn adran 2(1)(a) o Ddeddf Addysg 1996) a geir gan y plentyn neu a roddir ar gael iddo.

(5)Caiff amodau a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â phlentyn hefyd ymwneud â rhiant i’r plentyn, neu bartner i riant i’r plentyn, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) â gwaith am dâl a wneir gan riant neu bartner.

(6)Caiff darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(d) mewn cysylltiad â datganiad gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch pryd y mae datganiad i’w wneud, hyd datganiad, ac amodau sydd i’w bodloni gan berson sy’n gwneud datganiad.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth, at ddibenion yr adran hon, ynghylch—

(a)amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, plentyn i’w ystyried fel pe bai yng Nghymru;

(b)amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, person i’w ystyried yn bartner i berson arall;

(c)amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, person i’w drin fel pe bai’n gwneud gwaith am dâl.

(8)At ddibenion yr adran hon, mae “rhiant”, mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys—

(a)unrhyw unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p. 41)) dros y plentyn;

(b)unrhyw unigolyn a chanddo ofal am y plentyn.

(9)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.