Cyffredinol

9Diwygiad canlyniadol i Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005

Yn adran 18 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (dyletswydd cyfrinachedd), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)which is made to the Welsh Ministers, or to a person providing services to the Welsh Ministers,by virtue of regulations made under the Childcare Funding (Wales) Act 2019,.

10Ystyr “awdurdod lleol”

Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

11Pŵer i newid swm y gosb ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol

Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon roi swm gwahanol yn lle’r swm sydd wedi ei bennu am y tro yn adran 3(6).

12Darpariaeth atodol ynghylch rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac yn cynnwys pŵer i—

(a)rhoi disgresiwn i unrhyw berson,

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol, ac

(c)gwneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

13Dod i rym

(1)Daw’r adran hon ac adran 14 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dwyn darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

14Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019.