xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo rhan o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem, neu am un pris neu am bris arbennig, o gryfder gwahanol i’r alcohol arall a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw.
(2)Mae’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw i gael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r isafbris cymwys am bob cryfder o alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris.
(3)Mae cyfeiriadau yn adran 6 at alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau yn cynnwys cyfeiriadau at drafodiadau pan fo alcohol yn cael ei ddarparu ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau, ac—
(a)y cyflenwir y nwyddau eraill neu’r gwasanaethau am bris, ond
(b)y disgrifir yr alcohol fel pe bai’n cael ei gyflenwi yn rhad ac am ddim.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 7 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)