Cynigion arbennig

6Cynigion arbennig: cyflenwi alcohol gyda nwyddau a gwasanaethau

(1)

Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau ac eithrio alcohol, neu gyda gwasanaethau, am un pris, mae is-adran (2) yn gymwys.

(2)

Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am yr un pris hwnnw at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.

(3)

Er enghraifft—

(a)

mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) gyda pitsa am un pris;

(b)

gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y caniau a’r pitsa, ac ni chaniateir i’r pris hwnnw fod yn is nag £8.80, sef yr isafbris cymwys am y lager a’r seidr.

(4)

Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi am bris a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi nwyddau ac eithrio alcohol, neu wasanaethau (“pris arbennig”), mae is-adran (5) yn gymwys at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.

(5)

Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am bris sy’n hafal i gyfanswm y pris arbennig a’r pris (os oes un) y cyflenwir y nwyddau eraill a’r gwasanaethau amdano.

(6)

Er enghraifft—

(a)

mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) am bris arbennig os yw pitsa yn cael ei brynu am £5.00;

(b)

gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y pitsa a’r pris arbennig, ac ni chaniateir i’r pris arbennig hwnnw fod yn is na £3.80, sef yr isafbris cymwys am y caniau o lager a seidr (sy’n £8.80) llai pris y pitsa (sy’n £5.00).