4Ystyr “manwerthwr alcohol”LL+C
(1)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(a), mae pob un o’r canlynol i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon—
(a)unigolyn y mae trwydded bersonol wedi ei rhoi iddo o dan Ran 6 o Ddeddf 2003 sy’n awdurdodi’r unigolyn i gyflenwi alcohol, neu i awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â’r drwydded mangre o dan sylw;
(b)yr unigolyn sy’n oruchwyliwr dynodedig y fangre at ddibenion Deddf 2003.
(2)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(b), mae’r person sy’n ddeiliad y dystysgrif mangre clwb o dan sylw i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(c), mae’r unigolyn sy’n ddefnyddiwr y fangre at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003 i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 4 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)