Cyffredinol

24Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

(1)

Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)

Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)

Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.

(4)

Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (Criminal Justice Act 1925 (c. 86)) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43)) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(5)

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)

Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o gronfeydd y gymdeithas.