Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

22Cyfnod para darpariaethau’r isafbrisLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu gydag effaith ar ôl i’r cyfnod 6 mlynedd ddod i ben, oni bai y gwneir rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n darparu fel arall.

(2)Caiff rheoliadau, ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd ond cyn diwedd y cyfnod 6 mlynedd, ddarparu nad yw darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu, er gwaethaf is-adran (1).

(3)Caiff rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i ddiddymu, yn rhinwedd is-adran (1), ddarpariaethau’r isafbris.

(4)Yn yr adran hon—

  • mae “addasu” (“modifying”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu a dirymu;

  • ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” (“the 5 year period”) yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;

  • ystyr “y cyfnod 6 mlynedd” (“the 6 year period”) yw’r cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;

  • ystyr “darpariaethau’r isafbris” (“minimum pricing provisions”) yw—

    (a)

    y Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) a’r is-adran hon, ac at ddibenion gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), adrannau 26(1), (2) a 27), a

    (b)

    paragraff 2A o Atodlen 4 i Ddeddf 2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 22 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)