Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

13Pwerau mynediadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol fynd i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 11 cyn mynd i fangre o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 13 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)