Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

12Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau’r ddarpariaeth o unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 12 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)