Cynnwys hysbysiad cosb penodedigLL+C
2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;
(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;
(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;
(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;
(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;
(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)