ATODLEN 1COSBAU PENODEDIG

(a gyflwynir gan adran 9)

Cynnwys hysbysiad cosb penodedig

I11

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

a

datgan y drosedd honedig, a

b

rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I22

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—

a

enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;

b

swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;

c

y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;

d

effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

e

canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

f

y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;

g

y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;

h

y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I33

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

a

hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a

b

esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I44

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu

I55

1

Swm y gosb yw £200.

2

Caiff rheoliadau ddiwygio swm y gosb.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I66

Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu

I77

1

Mae’r swm gostyngol yn daladwy, yn lle swm y gosb, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.

2

Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.

3

Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (Banking and Financial Dealings Act 1971 (c. 80)).

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I88

Y swm gostyngol yw £150.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I99

Caiff rheoliadau ddiwygio’r swm gostyngol.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Effaith hysbysiad a thalu

I1010

1

Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1111

Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1212

Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1313

Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1414

Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—

a

os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod lleol yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a

b

os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Treial

I1515

Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1616

Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—

a

drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod lleol o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

b

yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1717Tynnu hysbysiadau yn ôl

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi ei roi.

2

Caiff yr awdurdod lleol roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

3

Os yw’n gwneud hynny—

a

rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

b

ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I1818Derbyniadau cosb benodedig

Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 9 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.